Manylion y penderfyniad
Childcare Sufficiency Assessment
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To note the findings from the All Wales
Childcare Sufficiency Assessment.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad oedd yn rhoi trosolwg o Adroddiad Cynnydd Blynyddol sydd wedi’i lunio i asesu cynnydd ochr yn ochr â'r camau gweithredu, y blaenoriaethau a'r cerrig milltir sydd yn yr Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant.
Roedd yr Adroddiad Cynnydd Blynyddol yn nodi’r camau gweithredu / cerrig milltir oedd wedi eu cyflawni yn ystod 2018/19 er mwyn ymateb i’r bylchau a'r meysydd i’w datblygu, y manylir yn llawn amdanynt yn yr adroddiad. Roedd hefyd yn nodi cryfderau craidd gan gynnwys asesiad bod:
· Gofal plant mewn lleoliad da ac yn diwallu anghenion y rhan fwyaf o rieni;
· Mae gofal plant yn ddibynadwy yn gyffredinol; ac
· Mae’r rhan fwyaf o ymatebwyr yn credu bod gofal plant o ansawdd da.
Eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) bod yr Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant nesaf i'w gynnal cyn 2022 a bod gwaith eisoes yn cael ei wneud i wella cyfranogiad darparwyr a rheini ac adborth yn yr asesiad er mwyn sicrhau gwell dealltwriaeth o’r materion i wella'r asesiad o ran galw, digonolrwydd, a meysydd i’w datblygu.
Diolchodd y Cynghorydd Jones i’r tîm am eu gwaith yn y maes hwn, lle'r oedd plant yn derbyn gofal o'u geni hyd at pan fyddent yn mynd i'r ysgol gynradd. Fe wnaeth hefyd gydnabod datblygiad y gronfa ddata a ddefnyddir oedd wedi ei chynllunio gan y tîm yr oedd awdurdodau lleol eraill bellach yn ei cheisio. Roedd Aelodau’n cytuno gyda sylwadau’r Aelod Cabinet a dywedwyd bod Sir y Fflint yn cydnabod pwysigrwydd gofal o’r fath ac wedi dod yn arweinydd marchnad yn y maes.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi effeithiolrwydd ymateb strategol y Cyngor i sicrhau gofal plant digonol a chynaliadwy o safon uchel o fewn y sir sy'n ymateb i anghenion plant a'u teuluoedd; a
(b) Bydd y gwaith parhaus a'r ymrwymiad i gwblhau’r Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant pob pum mlynedd a’r Adroddiad Cynnydd blynyddol yn cael ei gefnogi.
Awdur yr adroddiad: Emma Cater
Dyddiad cyhoeddi: 07/08/2019
Dyddiad y penderfyniad: 18/06/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 18/06/2019 - Cabinet
Yn effeithiol o: 27/06/2019
Dogfennau Atodol: