Manylion y penderfyniad
The Councils Closed Circuit Television Service and a Shared Service with Wrexham
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To consider proposals for joint working with Wrexham County Borough Council regarding the merging of the County Councils CCTV monitoring service with that of Wrexham.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd y gallai problemau yngl?n â theledu cylch caeedig fod yn emosiynol. Yn gyffredinol roedd y cyhoedd yn cael cysur o’r camerâu, fodd bynnag roedd cynni ariannol wedi gorfodi rhai awdurdodau lleol i ystyried rôl a chyllido systemau cylch cyfyng o ddifrif.
Roedd yr adroddiad yn nodi nifer o opsiynau o ran gosod teledu cylch caeedig . Roedd y posibilrwydd o ail-leoli’r gwasanaeth i Wrecsam wedi cael ei harchwilio ers peth amser. Byddai’r dewis hwn yn darparu gwasanaeth teledu cylch caeedig ar y cyd fyddai’n cael ei reoli gan Wrecsam, gyda Sir y Fflint yn dal yn gyfrifol am gostau ffibr a chynnal a thrwsio camerâu.
Mae’r Prif Swyddog (Tai ac Asedau) yn credu y bydd y dewis i uno gwasanaethau’n rhoi'r gwytnwch angenrheidiol i'r partneriaid ac yn cynorthwyo'r ddwy ochr i reoli costau'n fwy effeithiol.
Heddlu Gogledd Cymru sydd wedi cael y mwyaf o fudd o’r gwasanaeth er mai nhw sydd wedi cyfrannu leiaf yn ariannol. Rhaid mynd i’r afael â hyn.
Roedd Aelodau’n croesawu'r cynigion oedd yn arddangos enghraifft dda o gydweithio gydag awdurdod cyfagos ac yn cyd-fynd â’r thema ‘Cymunedau Mwy Diogel’ yng Nghynllun y Cyngor.
PENDERFYNWYD:
Cefnogi’r broses o uno swyddogaeth monitro teledu cylch caeedig gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Awdur yr adroddiad: Lynne McAlpine
Dyddiad cyhoeddi: 07/08/2019
Dyddiad y penderfyniad: 18/06/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 18/06/2019 - Cabinet
Yn effeithiol o: 27/06/2019
Dogfennau Atodol: