Manylion y penderfyniad

Parc Adfer Update

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Yes

Diben:

To provide an update on the progress of construction of the Parc Adfer facility, and on the Partnership’s preparations for its Commissioning.

Penderfyniadau:

            Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas adroddiad Parc Adfer ac eglurodd fod Cydbwyllgor Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru wedi cyfarfod yn ddiweddar i drafod newidiadau i ofynion trwyddedau amgylcheddol ar gyfer cyfleusterau Ynni a Gwastraff mewn perthynas â Deunydd Gronynnol (PM) ac argymhellodd adrodd ynghylch PM2.5, yn ychwanegol at ofynion y drwydded.

 

            O ganlyniad i bryderon a godwyd yn ystod y broses gaffael mewn perthynas ag allyriadau i’r aer o Barc Adfer, yn benodol deunydd gronynnol PM2.5, cafodd opsiwn cytundebol ei gynnwys yn y contract gyda Wheelabrator Technologies Inc (WTI) i fonitro ac adrodd ynghyd deunydd gronynnol PM2.5 yn ychwanegol at y drefn fonitro arferol y byddai’n rhaid i WTI ei chynnal o dan eu trwydded fel y cyflwynwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru a groesawyd gan y Cynghorydd Jones. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Banks, dywedodd y Prif Weithredwr y byddai technoleg adrodd yn fodd i roi diweddariadau’n syth ar lefelau allyriadau.

 

            Eglurodd y Prif Weithredwr fod y safle’n cyflogi tua 400 o bobl oedd yn unol â disgwyliadau wrth i’r gwaith adeiladu ddod i ben a’r cyfnod comisiynu ddod yn nes. Dechreuodd y gwaith o adeiladu cyfleusterau Parc Adfer yn Ionawr 2017, a byddai’r gwaith o gomisiynu’r cyfleusterau a derbyn gwastraff gweddilliol y Bartneriaeth yn dechrau ym Mehefin 2019, gan gyrraedd capasiti gweithredol llawn erbyn diwedd 2019. Amcangyfrifwyd y byddai’r safle’n creu digon o ynni adnewyddadwy i bweru mwy na 30,000 o gartrefi. Hefyd, byddai cyfanswm o 34 o swyddi newydd yn cael eu creu yn amrywio o reoli’r safle i swyddi gweithredol, technegol a gweinyddol.

 

            Roedd gwaith hefyd wedi’i wneud gyda phob parti dan sylw i sicrhau na fyddai lorïau’n tarfu ar drigolion trwy deithio ar isffyrdd – roedd sicrwydd wedi’i roi y byddai llwybrau lorïau’n cael eu pennu drwy brif ffyrdd A.

 

            Roedd y gwaith o adeiladu Parc Adfer wedi’i reoli’n dda – yn ddiweddar bu Cyngor Diogelwch Prydain yn archwilio’r safle a dyfarnwyd 5 seren i’r prosiect. Byddai Aelodau’n cael eu gwahodd i’r safle i gyfarfod y tîm gweithredol. Hefyd byddai rhan addysgol ar y safle lle byddai plant ysgol yn cael eu gwahodd fel rhan o ymweliadau ysgolion a drefnir.

 

            PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r adroddiad; a

 

(b)       Bod Aelodau’n cael sicrwydd o gynnydd a’i fod yn barod ar gyfer dechrau Comisiynu Parc Adfer.

Awdur yr adroddiad: Steffan Owen

Dyddiad cyhoeddi: 28/06/2019

Dyddiad y penderfyniad: 14/05/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 14/05/2019 - Cabinet

Yn effeithiol o: 23/05/2019

Accompanying Documents: