Manylion y penderfyniad

Council Plan 2018 / 19 -Mid Year Monitoring

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To review the levels of progress in the achievement of activities, performance levels and current risk levels as identified in the Council Plan 2018/19

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) adroddiad i ddangos crynodeb o’r perfformiad hyd at ganol blwyddyn 2018/19 o ran blaenoriaeth Cynllun y Cyngor, ‘Cyngor Cefnogol’, sy’n berthnasol i’r Pwyllgor.   

 

Dywedodd bod yr adroddiad canol blwyddyn yn dangos bod 88% o’r gweithgareddau yn gwneud cynnydd da a bod 81% yn debygol o gyflawni'r canlyniadau a gynlluniwyd.   Roedd 79% o ddangosyddion perfformiad wedi cyrraedd neu ragori ar y targed. Mae risgiau yn cael eu rheoli, gyda 18% yn unig wedi’u hasesu fel rhai mawr. Mae’r adroddiad yn adroddiad am eithriadau ac felly’n canolbwyntio ar y meysydd sy’n tan-berfformio.

 

Cyfeiriodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) at y risgiau sylweddol a nodwyd ar gyfer y Pwyllgor ynghylch tywydd drwg ar y rhwydwaith priffyrdd. Dywedodd bod y patrwm risg wedi cynyddu oherwydd difrifoldeb gaeaf 2017/18, gyda chyflwr ffyrdd ar draws y Sir wedi ei effeithio’n ddrwg ar geudyllau a diffygion ar arwyneb y ffordd. Mae cyllid, adnoddau a chontractwyr ychwanegol wedi eu lleoli ar draws y Sir yn ystod yr haf i atgyweirio’r rhwydwaith fel yr oedd y diffygion yn cael eu nodi. Roedd hyn yn cynnwys blaenoriaethu ail-wynebu a chynlluniau cyfalaf cyweirio. Eglurodd y Prif Swyddog er bod gwaith atgyweirio sylweddol a pharhaol i gael gwared â nifer o ddiffygion ac i wella cyflwr y ffyrdd gan leihau’r risg ar y rhwydwaith wedi’i gyflawni, efallai nid yw hyn yn ddigonol i atal y dirywiad yn y rhwydwaith.  Fodd bynnag, dywedodd y Prif Swyddog bod cyllid ychwanegol wedi’i ddyrannu i alluogi’r Awdurdod i gyflawni cynlluniau sylweddol eleni.

 

Mynegodd y Cynghorydd Owen Thomas bryderon ynghylch y risgiau cysylltiedig â diogelwch y cyhoedd oherwydd ceudyllau ar rai ffyrdd yn ei Ward. Cynigiodd y Cynghorydd Carolyn Thomas i drafod y pryderon penodol a godwyd gan y Cynghorydd Thomas ar ôl y cyfarfod.

 

Ailadroddodd y Cynghorydd Chris Dolphin y pryderon a fynegwyd gan y Cynghorydd Thomas ynghylch amodau gwael rhai o'r ffyrdd a rhoddodd sylw at y dull o archwilio a wneir i adnabod y diffygion.  Cydnabu’r Cynghorydd Carolyn Thomas y pwynt a wnaethpwyd ac eglurodd bod ôl-groniad o waith atgyweirio i ddod â’r ffyrdd i safon gofynnol, fodd bynnag, heb gyllid digonol i gyflawni’r gwaith, byddai'r rhwydwaith yn parhau i ddirywio.

 

Cyfeiriodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd ac Economi) at y risg mwyaf sef na allai cyllid gael ei sicrhau ar gyfer cynlluniau lliniaru llifogydd â blaenoriaeth, fel y nodwyd yn adran 1.11 o’r adroddiad.  Dywedodd bod gweithredu Atodlen 3 Deddf Rheoli Llifogydd A D?r a oedd yn gofyn i’r awdurdod lleol weithredu fel Corff Cymeradwyo Draenio Cynaliadwy o 7 Ionawr 2019 ymlaen, yn gosod dyletswyddau pellach ar y tîm Rheoli Perygl Llifogydd heb gyllid ychwanegol ar gael gan Llywodraeth Cymru.

 

Dywedodd y Cynghorydd Patrick Heesom na ddylid disgwyl i awdurdodau lleol gyflawni dyletswyddau ychwanegol heb gyllid digonol a mynegodd y safbwynt bod Aelodau lleol angen bod yn rhan o drafodaethau cyn cais ar gyfer materion sy’n ymwneud â chynllunio. Pwysleisiodd y Cynghorydd Carolyn Thomas bod cynrychioliadau cryf wedi’u gwneud ynghylch yr angen am gyllid i fod ar gael.

 

Mewn ymateb i ymholiad gan y Cynghorydd Haydn Bateman ynghylch cynllun lliniaru llifogydd yr Wyddgrug, eglurodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd ac Economi) bod cynllun mwy fforddiadwy mewn lle, ond nad oedd amserlen ar hyn o bryd i’w weithredu.

 

Diolchodd y Cynghorydd Paul Shotton am y gwaith atgyweirio a gyflawnwyd ar geudyllau Cei Connah. Cyfeiriodd at awgrym mewn cyfarfod blaenorol bod angen edrych ar fathau amgen o ddeunyddiau ar gyfer trin arwyneb ffyrdd, a gofynnodd os oedd unrhyw ddatblygiad wedi bod mewn perthynas â hyn. Eglurodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) bod diweddariad ar gynnydd yn cael ei ddarparu mewn cyfarfod o'r Pwyllgor yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi Adroddiad Monitro Hanner Blwyddyn Cynllun y Cyngor 2018/19.

           

Awdur yr adroddiad: Margaret Parry-Jones

Dyddiad cyhoeddi: 05/04/2019

Dyddiad y penderfyniad: 15/01/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 15/01/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd

Accompanying Documents: