Manylion y penderfyniad

Annual Improvement Report of the Auditor General for Wales

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Archwilio

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To receive the Annual Improvement Report from the Auditor General for Wales and note the Council’s response.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd Gwilym Bury Adroddiad Gwella Blynyddol Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) a oedd yn crynhoi’r gwaith archwilio a rheoleiddio yr ymgymerwyd ag ef yn y Cyngor ers yr adroddiad diwethaf a gyhoeddwyd ym Medi 2017. Roedd yr adroddiad, nad oedd yn gwneud unrhyw argymhellion ffurfiol, yn dod i’r casgliad bod y Cyngor yn cyflawni ei ofynion statudol mewn perthynas â gwelliant parhaus.

 

Roedd y Prif Weithredwr yn cydnabod y pedwar cynnig gwirfoddol newydd ar gyfer gwella, a allai wella effeithiolrwydd y swyddogaeth Drosolwg a Chraffu. Tra bo gwaith yn mynd rhagddo ar yr awgrymiadau hynny, roedd y Cyngor hefyd yn ymgymryd â hunanasesiad o berfformiad corfforaethol cyffredinol y gellid ei ddefnyddio i gynorthwyo SAC yn yr Adroddiad Gwella Blynyddol nesaf.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Johnson at yr her o gyflawni gwelliant parhaus yng ngolau llai o gyllid. Dywedodd y Prif Weithredwr bod y datganiadau gwydnwch ar gyfer bob portffolio gwasanaeth, a rannwyd yn ystod proses y gyllideb, wedi nodi’r risgiau o ran gwneud rhagor o doriadau i’r gyllideb y tu hwnt i’r rheiny a nodwyd eisoes. Dywedodd bod hunanwella yn dal i fod yn amcan parhaus fel y dangoswyd yn hanes blaenorol y Cyngor.

 

Cyfeiriodd Sally Ellis at argymhellion yr adroddiad cenedlaethol, yr oedd rhai ohonynt yn ymwneud â meysydd adroddiadau ‘coch’ ar gyfer Sir y Fflint. Cadarnhaodd y Rheolwr Archwilio Mewnol y byddid yn mynd i’r afael â phob un o’r meysydd fel rhan o’r rhaglen waith Archwilio Mewnol.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr, er nad oedd gofyn ymateb i argymhellion yr adroddiad cenedlaethol, mai ymagwedd y Cyngor oedd eu hystyried er mwyn nodi unrhyw bwyntiau dysgu er mwyn cryfhau trefniadau presennol ymhellach.

 

Dywedodd y Swyddog Gweithredol Busnes Corfforaethol a Chyfathrebu y byddai’r adroddiad blynyddol ar arolygiadau allanol, oedd ar y rhaglen ar gyfer y cyfarfod nesaf, yn rhoi sicrwydd i’r Pwyllgor bod adroddiadau cenedlaethol yn ogystal â rhai lleol yn cael eu nodi.

 

Diolchodd y Cynghorydd Johnson i’r swyddogion am gyfarfod cadarnhaol y Pwyllgor Cyswllt Archwilio a Chraffu a gynhaliwyd yn ddiweddar.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor wedi’u sicrhau ynghylch Adroddiad Gwella Blynyddol Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfer 2017/18.

Awdur yr adroddiad: Karen Armstrong

Dyddiad cyhoeddi: 18/03/2019

Dyddiad y penderfyniad: 21/11/2018

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 21/11/2018 - Pwyllgor Archwilio

Accompanying Documents: