Manylion y penderfyniad
Council Plan 2018/19 - Mid Year Monitoring
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Diben:
To review the levels of progress in the
achievement of activities, performance levels and current risk
levels as identified in the Council Plan 2018/19
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) yr adroddiad er mwyn monitro cynnydd ganol blwyddyn 2018/19 ar gyfer blaenoriaeth ‘Cyngor sy’n Cysylltu’ sy’n berthnasol i’r Pwyllgor sydd i’w weld yng Nghynllun y Cyngor. Dywedodd bod yr adroddiad canol blwyddyn yn dangos bod 88% o weithgareddau'n gwneud cynnydd da a bod 81% yn debygol o gyflawni'r canlyniadau bwriadedig. Roedd 79% o ddangosyddion perfformiad wedi cyrraedd neu fynd y tu hwnt i’w targed. Roedd risgiau’n cael eu rheoli gyda chyfran fechan o 18% wedi’u hasesu fel rhai mawr.
Gofynnodd Patrick Heesom am y dangosydd perfformiad oedd yn ymwneud â chyfyngiadau ar gyllid cyhoeddus er mwyn rhoi cymhorthdal am fodelau amgen. Cyfeiriodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) at yr adborth cadarnhaol o gyfarfodydd adolygu am ffigurau blwyddyn gyntaf o fasnachu ar gyfer modelau darparu amgen, serch hynny, dywedodd bod yr heriau i gyllid cyhoeddus yn parhau a dyma oedd y rheswm am y raddfa risg bresennol. Dywedodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) bod y cynlluniau busnes ar gyfer modelau darparu amgen yn cael eu hadolygu’n rheolaidd.
Gofynnodd y Cynghorydd Patrick Heesom bod cyfarfod yn cael ei drefnu i drafod y cyllid sydd ar gael i drosglwyddo asedau o fewn y Cynnig Twf.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Monitro Canol Blwyddyn Cynllun y Cyngor 2018/19 er mwyn monitro tan berfformiad a chodi nifer o faterion gyda Swyddogion.
Awdur yr adroddiad: Margaret Parry-Jones
Dyddiad cyhoeddi: 26/02/2019
Dyddiad y penderfyniad: 17/12/2018
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 17/12/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol
Accompanying Documents: