Manylion y penderfyniad
Annual Corporate Safeguarding Report
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To note the work being undertaken to ensure that the Council fulfils its safeguarding responsibilities and to present the Annual Corporate Safeguarding report for approval before publication.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad Diogelu Corfforaethol Blynyddol a oedd yn nodi'r gwaith a wnaed i sicrhau bod y Cyngor wedi cyflawni ei gyfrifoldebau diogelu.
Mae diogelu yn gyfrifoldeb ar bob gwasanaeth ar draws y Cyngor, nid dim ond y rhai hynny sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phlant a phobl ddiamddiffyn. Roeddcyfrifoldebau diogelu’r Cyngor wedi eu nodi mewn deddfwriaeth gan gynnwys Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 (Cymru). Daeth y Ddeddf i rym ym mis Ebrill 2016 ac mae’n rhoi dyletswydd ar holl staff awdurdodau lleol, aelodau etholedig a phartneriaid perthnasol i roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau neu ddigwyddiadau a amheuir o gamdriniaeth neu niwed.
EgluroddCynghorydd Mullin bod yr adroddiad yn nodi straeon o newyddion da, gan gynnwys sut y gwnaeth pryderon a godwyd gan is-gontractwr y Cyngor am ddiogelwch plentyn arwain at ymyrraeth y Gwasanaethau Cymdeithasol Mae hyn yn dangos pa mor bwysig yw hi i bob gweithiwr a chontractwr godi pryderon er mwyn sicrhau bod modd ymchwilio a chymryd camau gweithredu pan fo angen. Roedd y camau gweithredu allweddol sydd i'w cwblhau yn ystod 2019, ac a gytunwyd gan y Panel Diogelu Corfforaethol, wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
(a) Y gall y Cabinet fod yn dawel eu meddwl bod gwaith yn cael ei wneud i wella trefniadau corfforaethol i ddiogelu plant ac oedolion, a
(b) Bod yr Adroddiad Diogelu Corfforaethol Blynyddol ar gyfer 2018 yn cael ei gymeradwyo cyn ei gyhoeddi.
Awdur yr adroddiad: Fiona Mocko
Dyddiad cyhoeddi: 29/05/2019
Dyddiad y penderfyniad: 19/02/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 19/02/2019 - Cabinet
Yn effeithiol o: 28/02/2019
Dogfennau Atodol: