Manylion y penderfyniad
Review of Workforce Pay Model
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To provide an update on the progress of
developing a new Pay Model.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad yngl?n ag Adolygu Dull Cyflogau’r Gweithlu, a oedd yn rhoi braslun o’r effaith yn sgil gweithredu’r ail flwyddyn (2019) o gytundeb cyflogau’r Cyd-gyngor Cenedlaethol (2018/19 – 2019/20) ar sail y dull cenedlaethol.
Cwblhawyd gwaith manwl ar y dewisiadau ar gyfer trefn gyflogau newydd, a fyddai’n gorfod bod yn gyfreithlon ac yn deg, yn ymarferol ac yn gynaliadwy, yn dderbyniol ac yn fforddiadwy. Dylai’r Cyngor hefyd anelu at fod yn Gyflogwr Achrededig gan y Sefydliad Cyflog Byw.
Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhaodd y Prif Weithredwr y câi’r gweithwyr wybod am y drefn gyflogau newydd wedi i’r trafodaethau â’r Undebau Llafur ddod i ben.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi a chroesawu’r cynnydd a wnaethpwyd wrth adolygu’r Drefn Gyflogau er mwyn ateb gofynion ail flwyddyn y Codiad Cyflog Cenedlaethol; a
(b) Gwahodd y Prif Weithredwr i gwblhau’r trafodaethau â’r Undebau Llafur i gytuno ar drefn gyflogau newydd a gweithredu’r drefn honno, yn rhinwedd ei bwerau dirprwyedig, ar yr amod:
1. Bod y drefn gyflogau newydd yn modloni’r meini prawf a nodwyd yn yr adroddiad;
2. Bod y drefn gyflogau newydd yn cael canlyniad ffafriol mewn Asesiad Annibynnol o’r Effaith ar Gydraddoldeb; ac
3. Nad yw’r gost sylfaenol gylchol dros 5% yn fwy na’r hyn a neilltuwyd yng nghyllideb ddrafft 2019/20.
Awdur yr adroddiad: Sharon Carney
Dyddiad cyhoeddi: 15/03/2019
Dyddiad y penderfyniad: 22/01/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 22/01/2019 - Cabinet
Yn effeithiol o: 31/01/2019
Dogfennau Atodol:
- Pay Modelling
- Enc. 1 for Pay Modelling
- Enc. 2 for Pay Modelling
- Enc. 3 for Pay Modelling