Manylion y penderfyniad
Business Rates – Write Offs
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To seek approval of the write off of individual bad debts for Business Rates in excess of £25,000.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad yngl?n â Dileu Ardrethi Busnes, a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i ddileu dyledion.
Roedd pedair o ddyledion ardrethi busnes a ystyriwyd yn anadferadwy gan fod y dyledwyr yn Gwmnïau Atebolrwydd Cyfyngedig nad oeddent yn masnachu mwyach, ac a oedd naill ai wedi mynd i ddwylo gweinyddwyr neu wedi'u diddymu. Felly, nid oedd unrhyw asedau ac nid oedd yn bosibl bellach adfer y dyledion ardrethi busnes yn llwyddiannus ac felly roedd angen dileu cyfanswm o £217,396. Roedd yr adroddiad yn cynnwys manylion y cwmnïau dan sylw.
Esboniodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) na fyddai dileu’r dyledion hyn yn cael unrhyw effaith ariannol uniongyrchol ar y Cyngor na’r trethdalwyr lleol, gan fod Ardrethi Busnes yn mynd i’r Gronfa Genedlaethol yng Nghymru. Serch hynny, gan mai Llywodraeth Cymru oedd yn gyfrifol am y Gronfa honno, gallai diffyg talu ardrethu gael effaith ar drethdalwyr yng Nghymru yn gyffredinol.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo dileu’r dyledion ardrethi busnes.
Awdur yr adroddiad: David Barnes
Dyddiad cyhoeddi: 15/03/2019
Dyddiad y penderfyniad: 22/01/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 22/01/2019 - Cabinet
Yn effeithiol o: 31/01/2019
Dogfennau Atodol: