Manylion y penderfyniad
Revenue Budget Monitoring 2018/19 Month 6 and Capital Programme Monitoring Month 6
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Diben:
The purpose of these reports is to provide Members with the Revenue Budget Monitoring 2017/18 (Month 6) and Capital Programme Monitoring 2018/19 (Month 6).
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad ar sefyllfa monitro’r gyllideb refeniw ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai (HRA), a'r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2018/19 fel yr oedd ym Mis 6. Byddai'r ddau yn cael eu hystyried gan y Cabinet ar 20 Tachwedd 2018.
Monitro Cyllideb Refeniw
O ran Cronfa'r Cyngor, roedd y diffyg gweithredol wedi gostwng o £0.081miliwn i £0.222miliwn. O ran rhagolwg sefyllfa’r portffolios, roedd cynnydd o £0.122m ar gyfer Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir wedi golygu bod gorwariant yn ystod y flwyddyn yn £1.585m.
Amcangyfrifwyd y byddai 96% o arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd yn cael eu cyflawni erbyn diwedd y flwyddyn.
Roedd diweddariad ar risgiau ac effeithiau o bwysau ysgolion yn ogystal â’r hysbysiad y byddai cyllid ychwanegol ar gyfer dyfarniad cyflog athrawon yn cael ei gynnwys fel rhan o’r Setliad.
Rhagwelwyd y byddai’r balans ar Gronfeydd wrth Gefn Arian at Raid yn £7.469m ar ddiwedd y flwyddyn.
Nid oedd newid yn HRA lle y rhagwelwyd y byddai'r gwariant o fewn y flwyddyn yn £0.067m yn is na'r gyllideb, gan adael balans diwedd blwyddyn o £1.165m.
Mewn ymateb i ymholiadau gan y Cynghorydd Jones, rhoddwyd eglurhad ar ddosbarthiad cyfraniad cyllid addysg gan Lywodraeth Cymru drwy fformiwla cyllid ysgolion. Eglurodd y Prif Weithredwr y byddai'r sefyllfa ar adnoddau / gorbenion gorfodi meysydd parcio yn ffurfio rhan o'r adolygiad sy'n cael ei adrodd ym mis Rhagfyr.
O ran yr ymchwiliad cenedlaethol annibynnol i fynd i'r afael â honiadau cam-drin rhywiol plant yn y gorffennol, eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) bod y costau yn ddangosol ar hyn o bryd, yn amodol ar unrhyw geisiadau pellach am wybodaeth. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Gladys Healey, rhoddwyd eglurhad ar etifeddiaeth cyfrifoldeb y Cyngor fel awdurdod dilynol.
O ran Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir, eglurwyd bod y gostyngiad i gostau Addysg ac Ieuenctid yn £0.027m yn hytrach na £0.058m.
Rhaglen Gyfalaf
Roedd crynodeb o’r newidiadau i’r rhaglen yn ystod 2018/19 yn nodi cyfanswm cyllideb ddiwygiedig o £70.289m yn bennaf oherwydd newidiadau i broffiliau gwariant a chadarnhau cyllid grant yn ystod y flwyddyn. Crynhowyd y ceisiadau am symiau cario ymlaen gyda chyfanswm o £2.246m yn Nhabl 3.
Roedd sefyllfa gyllidebol gyffredinol am dair blynedd yn dangos diffyg o £8.577m cyn gwireddu derbyniadau cyfalaf ychwanegol a /neu ffynonellau cyllid eraill.
O ran y sefyllfa ddiweddaraf ar gyfer buddsoddi mewn trefi yn y sir, holodd y Cynghorydd Jones am y dadansoddiad o ardaloedd rhaglen Safon Ansawdd Tai Cymru (WHQS) a nodwyd yn Nhabl 7. Eglurodd y Prif Weithredwr y byddai gwybodaeth ar ddiffiniad yr ardaloedd hynny yn cael ei darparu.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r argymhellion a wnaed yn adroddiad y Cabinet ar gyfer 20 Tachwedd ar Fonitro’r Gyllideb Refeniw 2018/19 (Mis 6) ac yn cadarnhau nad oes unrhyw faterion eraill i’w cyflwyno i’r Cabinet; a
(b) Bod y Pwyllgor yn nodi sefyllfa Rhaglen Gyfalaf 2018/19 (Mis 6) a chadarnhau, ar yr achlysur hwn, nad oes unrhyw faterion i’w cyflwyno gerbron y Cabinet.
Awdur yr adroddiad: Sara Dulson
Dyddiad cyhoeddi: 10/01/2019
Dyddiad y penderfyniad: 15/11/2018
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 15/11/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Accompanying Documents: