Manylion y penderfyniad
Flintshire Early Help Hub
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyd-Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To provide an overview of the operation and
effectiveness of the Early Help Hub
Penderfyniadau:
Cyflwynodd yr Uwch-reolwr Darpariaeth Ieuenctid Integredig adroddiad oedd yn cynnig trosolwg o weithrediad ac effeithiolrwydd y Canolbwynt Cymorth Cynnar. Darparodd wybodaeth gefndir a gwahoddodd yr Uwch-reolwr Plant a’r Gweithlu i gyflwyno’r adroddiad.
Eglurodd yr Uwch-reolwr Plant a’r Gweithlu bod y Canolbwynt yn cynnig cyngor a chymorth i deuluoedd pan na fyddai atgyfeiriadau wedi cael eu gwneud yn flaenorol a phan roedd yna risg uchel o gael eu hatgyfeirio yn ôl at y Gwasanaethau Plant, gan ddiffinio angen mwy cymhleth. Adroddodd ar ddatblygiad y Canolbwynt Cymorth Cynnar, y gellir ei grynhoi fel a ganlyn:
- Dylunio
- Lansiad meddal
- Gweithredu
Siaradodd yr Aelodau o blaid y gwaith gwych a wnaed ar y Canolbwynt Cymorth Cynnar, gan longyfarch y swyddogion ar eu cyflawniadau. Siaradodd yr Aelodau hefyd o blaid y cydweithrediad rhwng yr asiantaethau aml-bartner i ddylunio a datblygu’r Canolbwynt, gan enwi Heddlu Gogledd Cymru a’r Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus fel enghreifftiau.
Gwnaeth Mrs Rebecca Stark sylw am yr angen i barhau’r cyllid yn y dyfodol a gofynnodd sut y gellid codi proffil y Canolbwynt Cymorth Cynnar i sicrhau bod Llywodraeth Cymru ac awdurdodau a sefydliadau/cyrff eraill yn ymwybodol o’r gwaith a’r deilliannau cadarnhaol sy’n cael eu cyflawni yn Sir y Fflint.
PENDERFYNWYD
(a) Y byddai’r Pwyllgor yn llongyfarch y swyddogion ar y gwaith y maent wedi’i wneud ar y Canolbwynt Cymorth Cynnar;
(b) Y dylid cefnogi’r gwaith a’r ymrwymiad parhaus i’r Canolbwynt Cymorth Cynnar fel rhan o raglen ehangach i gefnogi teuluoedd sy’n wynebu trawma sy’n ymwneud â Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod;
(c) Y byddai’r Pwyllgor yn cefnogi’r gwaith o gasglu data a thystiolaeth i ddangos yr angen am barhad yn y cyllid Teuluoedd yn Gyntaf gan Lywodraeth Cymru.
Awdur yr adroddiad: Ann Roberts
Dyddiad cyhoeddi: 29/10/2018
Dyddiad y penderfyniad: 24/05/2018
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 24/05/2018 - Cyd-Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Dogfennau Atodol: