Manylion y penderfyniad
Integrated Impact Assessment (IIA)
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To enable the Committee’s understanding
and application of the Integrated Impact Assessment (IIA)
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i alluogi’r Pwyllgor i ddeall a defnyddio’r Asesiad o Effaith Integredig. Darparodd wybodaeth gefndir a gwahodd Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol i roi cyflwyniad ar yr Asesiad o Effaith Integredig. Pwyntiau allweddol y cyflwyniad oedd:
· Beth yw ystyr Asesiad o Effaith Integredig?
· beth yw’r manteision?
· dull Sir y Fflint
· y camau nesaf
Nododd y Cynghorydd Richard Jones ganlyniadau ac effaith y camau a gymerir gan yr Awdurdod ac awgrymu bod angen darparu system symlach i gynorthwyo gyda dealltwriaeth a chraffu materion. Cydnabu’r Prif Weithredwr y sylwadau a dywedodd ei fod yn hyderus y byddai gweithdy MTFS, a gynhelir ar 23 Gorffennaf, yn ateb rhai o’r pryderon a godwyd.
Mynegodd y Cynghorydd Patrick Heesom bryderon fod y cynigion a gyflwynwyd ar gyfer model yr Asesiad o Effaith Integredig yn gosod safbwynt /datrysiadau i’r defnyddwyr gwasanaeth a chymunedau lleol a nododd bod angen gwneud rhagor o waith ar y pecyn offer.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Arnold Woolley at y matrics risg a nododd y gellir ei gymhwyso i ystyried effaith y cynigion gwneud penderfyniadau.
Nododd y Cadeirydd bod angen cynnwys cydraddoldeb mewn gwaith a hawliau plant yn yr Asesiad o Effaith Integredig. Holodd a gysylltwyd â Chomisiynydd Plant Cymru. Eglurodd Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol y byddai’n olrhain hyn.
Darparodd y Prif Weithredwr sicrwydd bod effaith y penderfyniadau a wnaed gan yr Awdurdod yn cael eu hystyried yn ddilys ac yn deg. Atgoffodd y Pwyllgor mai'r bwriad oedd defnyddio'r Asesiad o Effaith Integredig (a) yn gyfatebol a (b) ar gyfer y penderfyniadau polisi ac adolygu gwasanaeth / cyllideb mwyaf sylweddol.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn croesawu’r Asesiad o Effaith Integredig ac yn deall ei ddiben a’i ddefnydd.
Awdur yr adroddiad: Karen Armstrong
Dyddiad cyhoeddi: 09/10/2018
Dyddiad y penderfyniad: 12/07/2018
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 12/07/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Dogfennau Atodol: