Manylion y penderfyniad
Self-Evaluation of Local Government Education Services
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Yes
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Yes
Diben:
To provide an update on overall service performance and the new Estyn framework for the inspection of Local Government and Education Services.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts hunanwerthusiad ar adroddiad Gwasanaethau Addysg Llywodraeth Leol oedd gyda tri diben allweddol. Y cyntaf oedd adolygu’r broses a diben yr hunanwerthusiad a sut yr oedd wrth graidd gwella gwasanaethau.
Yr ail oedd i gynghori ar fframwaith newydd wedi’i gyflwyno gan Estyn i arolygu Gwasanaethau Addysg Llywodraeth Leol a’r trydydd oedd i gyflwyno’r adroddiad hunanwerthuso presennol yn seiliedig ar y fframwaith newydd.
Mae’r meysydd archwilio yn y fframwaith newydd yn canolbwyntio ar ganlyniadau, safon y gwasanaethau addysg; ac arweinyddiaeth a rheolaeth. Byddai barn yn cael ei wneud ar raddfa pedwar pwynt: rhagorol, da, boddhaol ac angen gwella; ac anfoddhaol ac angen gwella ar unwaith.
Dywedodd y Prif Weithredwr (Addysg ac Ieuenctid) fod Estyn yn diffinio hunanwerthuso fel proses ac nid fel un digwyddiad, yn seiliedig ar y tri chwestiwn canlynol:
· Pa mor dda ydym ni’n ei wneud a pha effaith y mae ein gwasanaeth yn ei gael?
· Sut ydym yn gwybod hynny?
· Sut allwn ni wella pethau ymhellach?
Dylai hunanwerthuso fod yn barhaus ac yn rhan sefydledig o waith y Cyngor. Byddai’n gylch a fyddai’n cynnwys cynllunio ar gyfer gwella, ymgymryd â gweithgaredd gwella, monitro'r gweithredoedd a gymerwyd a gwerthuso'r effaith y mae'n nhw wedi'i gael.
O Fedi 2017 bydd yr holl awdurdodau lleol yng Nghymru yn cael eu harchwilio dros y pum mlynedd ganlynol gydag un awdurdod lleol ar gyfer pob rhanbarth ymhob cylch, gan dderbyn wyth wythnos o rybudd ar gyfer yr archwiliad. Pythefnos i dair wythnos cyn yr archwiliad bydd y tîm yn gwneud ymweliad rhagarweiniol i’r awdurdod lleol i gwrdd â nifer o randdeilliaid ac i gasglu tystiolaeth i gefnogi datblygiad eu hymholiadau.
Mae Cyngor Sir Y Fflint yn elwa o arweinyddiaeth hynod o effeithiol ar bob lefel o’r sefydliad, gyda chymorth corfforaethol cadarn i’r portffolio Addysg a Ieuenctid. Roedd tystiolaeth o hynny i’w gael yng Nghynllun Gwella y Cyngor a dogfennau strategol eraill.
Dyma’r Prif Weithredwr yn diolch i’r Prif Swyddog a’i thîm am y gwaith a wnaed ar hyn, a oedd yn asesiad gwrthrychol a theg.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod fframwaith newydd Estyn ar gyfer arolygu gwasanaethau addysg o fewn Awdurdodau Lleol yng Nghymru yn cael ei nodi; a
(b) Chymeradwyo'r Adroddiad Hunanwerthuso ar gyfer Gwasanaethau Addysg Sir Y Fflint.
Awdur yr adroddiad: Claire Homard
Dyddiad cyhoeddi: 06/11/2018
Dyddiad y penderfyniad: 25/09/2018
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 25/09/2018 - Cabinet
Yn effeithiol o: 04/10/2018
Accompanying Documents: