Manylion y penderfyniad
Call In During the Budget Process
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd
Statws y Penderfyniad: For Determination
Is AllweddolPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad i ystyried gosod unrhyw gyfyngiadau galw ceisiadau i mewn yn ystod y broses o osod cyllideb. Darparodd wybodaeth gefndirol a nododd bod sawl opsiwn ar gyfer gosod cyfyngiadau ar alw i mewn megis:
· gwahardd galw i mewn oherwydd cyllid; neu
· cyfyngu galw i mewn ar gyfer materion nad ydynt wedi cael eu hystyried yn barod gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu (PTC); neu
· cyfyngu galw i mewn i gamau 1 a 2 o’r broses cyllid newydd er mwyn oedi’r trydydd cam
Yn ogystal â’r uchod, dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) bod modd i’r Pwyllgor benderfynu nad oedd angen unrhyw newid a phenderfynu cadw pethau fel ag y maent ar hyn o bryd felly.
Eglurodd y Prif Swyddog bod y broses cyllid newydd yn caniatáu i Aelodau ystyried cynlluniau ym mhob gweithdy Aelodau ac mewn Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn y tri cham. Os yw Aelod yn poeni am gynllun cyllid yng ngham 1 neu 2, gellir ei gyfeirio at gael ei ystyried eto yn fanylach ar gam hwyrach. Ychwanegodd y dylai hyn fod yn ddigon i graffu cynlluniau yn fanylach, er nad yw goblygiadau llawn penderfyniad bob amser yn glir wrth ystyried yr effaith gronnol posibl.
Mynegodd y Cynghorydd Chris Bithell ei fod yn teimlo bod y trefniadau presennol yn ddigonol ac nad oes angen newid. Cynigodd y dylid cadw pethau fel ag y maent am y tro.
Dywedodd y Cynghorydd Ian Dunbar ei fod yn gweld gwerth yn y tri opsiwn sydd wedi'u cynnig uchod ac awgrymodd y dylid ystyried bob un ohonynt er mwyn darparu un opsiwn cyfun i'w ystyried ymhellach.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Mike Peers at adroddiad craffu Swyddfa Archwilio Cymru a dywedodd y dylid ystyried y cynnwys cyn gwneud unrhyw newid i’r trefniadau presennol, ac roedd o blaid cadw pethau fel ag y maent. Ychwanegodd bod angen gwneud mwy o waith i’r broses ymgynghori cyllid a dywedodd bod angen amserlen ar gyfer y broses gosod cyllid ym mis Mawrth 2019.
Tynnodd y Cynghorydd Arnold Woolley sylw at y paragraff olaf ar dudalen 17 yn yr adroddiad ac ailadrodd y datganiad 'yn y pen draw, mae’n fater i Gynghorwyr benderfynu a ddylid cyflwyno cais galw i mewn." Dywedodd bod y system yn “hunan-blismona” i ryw raddau a bod Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn gwrthod unrhyw geisiadau galw i mewn yn syth os nad ydynt o werth.
Yn ystod trafodaeth, mynegodd sawl Aelod eu bod o blaid cadw pethau fel ag y maent ar hyn o bryd. Yn y bleidlais, cytunodd y Pwyllgor ar gynnig y Cynghorydd Chris Bithell i gadw pethau fel ag y maent am y tro.
PENDERFYNWYD:
Mae’r Pwyllgor yn awgrymu cadw pethau fel ag y maent i Gyngor y Sir o safbwynt galw i mewn.
Awdur yr adroddiad: Tracey Cunnew
Dyddiad cyhoeddi: 26/09/2018
Dyddiad y penderfyniad: 21/06/2018
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 21/06/2018 - Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd
Accompanying Documents: