Manylion y penderfyniad

Performance Out-turn 2017/18

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To note the areas of corporate and service under-performance against the Council Plan and the performance measures set for 2017/18, and to await an action plan from Cabinet with proposals for performance improvement in 2018/19.

Penderfyniadau:

                        Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) dros dro'r trosolwg perfformiad y Cyngor  2017-18, gan ystyried y mesuryddion perfformiad a gafwyd eu cydnabod yn lleol, yn ogystal â’r mesuryddion a meincnodwyd yn genedlaethol, sef y Mesurau Atebolrwydd Cyhoeddus.

 

                        Ar y cyfan roedd y ddwy ddogfen yn bositif, gyda’r mwyafrif o'r mesuryddion yn dangos llwyddiant o gyrraedd targed a gwella yn gyson ar hyd y flwyddyn. Er hyn, roedd yn bwysig iawn i’r Cyngor gadw ffocws ac i barhau i gynnal lefel o graffu ar ardaloedd perfformio penodol yn ystod 2018/19.

 

                        Mae’r adroddiad yn darparu manylion ar fesuryddion perfformiad sydd wedi dangos bod gostyngiad mewn perfformiad, heb gyrraedd y targed o bell ffordd, neu yn genedlaethol yn y 2 chwartel meincnodi gwaethaf.  Byddai mesurau y cytunwyd arnynt yn y categorïau hyn yn cael eu monitro ar gyfer adolygiad ac arolygiaeth yn y dyfodol.

 

                        Soniodd y Cynghorydd Patrick Heesom am ei bryderon yngl?n â'r nifer o ddangosyddion Coch.  Gwnaeth sylw fod y cyrhaeddiad addysgol Cyfnod Allweddol 4 ddim digon uchel ac nad oedd perfformiad y disgyblion sy’n derbyn prydau ysgol am ddim yn ddigonol.Dywedodd fod angen gwella’r ardaloedd hyn ar frys.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Hilary McGuill sylw ar y mesuryddion perfformiad ar gyfer pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, mewn swydd neu hyfforddiant, a dywedodd eu bod angen eu nodi a’u holrhain yn gynt yn hytrach na dim ond eu cydnabod pan yn 16 mlwydd oed. Dywedodd y Prif Swyddog dros dro bod hyn yn flaenoriaeth ar gyfer y portffolio er mwyn datblygu, ac fe amlinellodd fod angen defnyddio cyn lleied o adnoddau er mwyn wynebu’r heriau mwyaf.

 

Mewn ymateb i bryderon am Aura Leisure, esboniodd y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol bydd y Pwyllgor Trosolwg a Craffu Newidiadau Sefydliadol yn parhau i dderbyn adroddiadau cyson ar berfformiad Aura Leisure.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Richard Jones os gellir darparu dogfen i Aelodau, a fyddai yn dangos y newidiadau rhwng Cynllun y Cyngor 2017/18 a Chynllun 2018/19, a fydd yn helpu Aelodau i adnabod y newidiadau yn rhwydd.  Cytunodd y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol i ddarparu'r wybodaeth hon yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.  Yn ogystal, adroddodd hi fod adolygiad o Gynllun y Cyngor 2018/19 i hysbysu Cynllun 2019/20 am ddechrau yn gynharach ym mis Hydref/Tachwedd 2018.    

 

Roedd aelodau yn galw am eglurhad am eiriad y dangosyddion perfformiad, cyfeiriad a sylwadau ar ddatblygiad perfformiad ar gyfer y canlynol:-

 

  • IP1.3.4.1.MO1 – Gostyngiad Blynyddol o filiau tanwydd domestig ar gyfer trigolion Sir y Fflint (£);
  • IP6.1.2.3.MO3 - Canran o Reolwyr yn cwblhau rhaglenni yngl?n â straen;
  • IP6.1.2.4.MO4 - Canran o weithwyr yn cwblhau rhaglenni yngl?n â straen;
  • IP1.6.4.2.M02 - Y nifer o ddigwyddiadau o gam-drin domestig a Thrais Rhywiol yn cael eu hadrodd;
  • IP1.6.4.3.MO3 – y nifer o ddigwyddiadau o gam-drin domestig yn cael eu hadrodd i Heddlu Gogledd Cymru.

 

            Darparodd y Prif Swyddog dros dro esboniad ar Reolwyr a gweithwyr yn cwblhau rhaglenni yn ymwneud â straen, gyda'r bwriad o sicrhau fod digon o Reolwyr wedi eu hyfforddi i nodi sefyllfaoedd o straen a chynnig cymorth addas pan fo angen.  Esboniodd y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol, er bod y nod ar gyfer digwyddiadau o gam-drin domestig yn 0 (gan nad oedd yn briodol gosod nod), roedd Statws Coch, Melyn a Gwyrdd yn ymddangos fel 'Gwyrdd' i ddangos gwella mewn adrodd digwyddiadau, a oedd angen cynyddu, yn hytrach na bod yn ‘gudd’.

 

            Gofynnodd aelodau bod disgrifiadau ac esboniadau yn adroddiadau perfformiad y dyfodol yn cael eu darparu yn Saesneg ac yn ddealladwy i bawb.Derbyniodd y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol y sylwadau uchod a dywedodd bod arweiniad ar hyn yn cael ei ddarparu yn gyson i brif swyddogion perfformiad.

 

            Gwnaeth y Cynghorydd Patrick Heesom sylw bod Aelodau angen deall unrhyw oblygiadau cyllideb os nad ydynt yn bodloni targedau perfformiad.

 

            Awgrymodd y Cynghorydd Arnold Wolley fod y Pwyllgor yn gwahodd y Cabinet i gyhoeddi cynllun gweithredu i gydnabod tanberfformio lle mae Statws Coch, Melyn a Gwyrdd o Felyn, gyda dirywiad mewn tuedd perfformio, ynghyd â statws o Goch.  Cefnogodd y Pwyllgor hwn.  Cadarnhaodd Hwylusydd Trosolwg a Chraffu fod y cynllun gweithredu yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu  Adnoddau Corfforaethol yn y cyfarfod nesaf.

 

PENDERFYNWYD:

 

a)            Fod angen nodi meysydd o danberfformiad corfforaethol a gwasanaeth yn erbyn Cynllun y Cyngor a’r mesuryddion perfformiad a osodwyd ar gyfer 2017/18; a

 

b)            Bod y Pwyllgor yn gwahodd y Cabinet i gyhoeddi cynllun gweithredu i fynd i'r afael ag unrhyw faes nad yw’n perfformio’n ddigonol a lle mae ganddynt Statws Coch, Melyn a Gwyrdd (CMG) sy’n Goch neu Felyn, gyda dirywiad yn eu tuedd perfformio.

Awdur yr adroddiad: Robert Robins

Dyddiad cyhoeddi: 14/08/2018

Dyddiad y penderfyniad: 04/06/2018

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 04/06/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Accompanying Documents: