Manylion y penderfyniad

Council Plan 2018/19

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw

Diben:

To receive a presentation on the draft Council Plan (to follow the all member workshop held on 29 May) for the Committee to be able to advise Cabinet on the final content.

Penderfyniadau:

            Dechreuodd y Swyddog Gweithredu Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol y cyflwyniad drwy gyfeirio tuag at Gynllun y Cyngor a thaflenni Adolygiad Targedau oedd wedi eu rhannu.  Mae'r ddogfen hon yn amlinellu awgrymiadau a godwyd gan Aelodau yn y Gweithdy a gynhelir ar y 29 Mai yn Rhan 1 gyda’r targedau ar gyfer rhagori, gwella neu gynnal o fewn Cynllun y Cyngor yn cael eu cyfeiriadaeth yn Rhan 2.

 

            Derbyniodd y Cynghorydd Richard Jones y fersiwn diwygiedig o'r modd strategol i adfywio a chefnogi canol trefi fel y rhannwyd, ond er hyn yr oedd yn pryderu os oes gan y Cyngor adnoddau digonol i wireddu’r uchelgais. Esboniodd y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol y bydd y dull datblygiadol i adfywio a chefnogi canol trefi yn cael ei gynnal mewn partneriaeth gyda Chynghorau Tref.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Jones pam fod y targed perfformiad ar gyfer tai fforddiadwy wedi eu diddymu.  Mewn ymateb i’r esboniad gan y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol y byddai’r targed wedi ei ddiddymu fel mesur perfformiad cenedlaethol, awgrymodd y Cynghorydd Jones y byddai’r targed yn parhau fel mesur lleol yn 2018/19. Cytunodd y Cynghorydd Patrick Heesom gyda'r awgrymiad hwn a chododd bryder yngl?n â datblygwyr yn darganfod bylchau yn y ddeddfwriaeth er mwyn cynnig digonedd o dai fforddiadwy.

 

            Cododd Cynghorydd Heesom bryder ynghylch diffyg darpariaeth ieuenctid ledled y Sir a bod mwyafrif helaeth o’r trigolion yn methu cael mynediad at y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf ac felly ddim am gael budd allan o'r gwasanaeth yn cynnwys annog mynediad i waith ac ati. Dywedodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) dros dro bod y sylwadau wedi cael eu nodi.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Hilary McGuill i Thema Cynllun y Cyngor ‘Cyngor Gwyrdd’ a dywedodd yn ystod y gweithdy Aelodau ei bod hi wedi awgrymu y dylai’r Cyngor gyd-weithio gyda mannau bwyd parod iddynt gyflwyno cynllun lle byddai nodi rhif cofrestru becynnu’r bwyd er mwyn lleihau lefelau sbwriel ar draws y Sir. Awgrymodd y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol y byddai'r syniad hwn yn cael ei ychwanegu i Raglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Amgylcher er mwyn ystyried y dewisiadau sydd ar gael.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd McGuill bod boddhad gofalwyr yn parhau i gael ei fonitro.  

 

            Mewn ymateb i’r sylwadau ynghylch cofrestru ysgolion, esboniodd y Prif Swyddog dros dro Bolisi Cofrestru Ysgolion y Cyngor a’r broses apêl sy’n agored i rieni os nad oeddent yn llwyddiannus yn cael mynediad i’w hysgol dewis gyntaf.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Joe Johnson a oes unrhyw wybodaeth ar leoliad i le gall teithwyr sy’n aros am gyfnod byr aros. Hefyd fe ofynnodd a fyddai’r cynllun Buddsoddiad Canol Tref yn cael ei rannu’n deg ar draws y Sir. Cadarnhaodd y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol nad oedd lleoliad wedi ei bennu i’r teithwyr sy’n aros dros dro eto.

 

            Awgrymodd Cynghorydd Paul Johnson y byddai’r Strategaeth Treftadaeth, sy’n cynnwys safleoedd pwysig megis Parc Treftadaeth Greenfield Valley; yn fwy perthnasol os caiff ei symud i Thema Cynllun y Cyngor ‘Cyngor Uchelgeisiol’, yn enwedig o safbwynt twristiaeth a safbwynt cyfleoedd economaidd.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn a phryderon a godwyd yngl?n â safon y Tai Amlfeddiannaeth ymatebodd y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol  drwy sôn y byddai datblygiad dogfen polisi dogfen yn sicrhau gwelliant mewn safon yn y dyfodol.  Ar hyn o bryd nid oes gan Llywodraeth Cymru bolisi ar hyn.

 

            Mewn ymateb i nifer o gwestiynau yngl?n â glanweithdra strydoedd â’r arolwg glanweithdra; esboniodd y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol fod arolwg annibynnol wedi ei gynnal ar hyd y 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru. Awgrymodd y byddai hyn yn cael ei ychwanegu at Raglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Amgylchedd i’w ystyried mewn cyfarfod yn y dyfodol, gan gynnwys gwybodaeth ar sut y cafodd yr arolwg annibynnol ei noddi

 

            Diolchodd y Cadeirydd yr Aelodau am eu sylwadau, a esboniodd y byddai eu sylwadau yn cael eu cyflwyno i’r Cabinet i’w hystyried ar gyfer y cynnwys terfynol y Cynllun y Cyngor 2018/19.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi cynnwys y nodiadau a’r ymatebion o’r Gweithdy Aelodau a gynhelir ar y 28 Mai, fel y dosbarthwyd yn y cyfarfod, i gael eu cyflwyno i’r Cabinet, ynghyd â sylwadau gan Aelodau eraill yn ystod y cyfarfod, i ystyried ar gyfer cynnwys terfynol Cynllun y Cyngor 2018/19.

Awdur yr adroddiad: Robert Robins

Dyddiad cyhoeddi: 14/08/2018

Dyddiad y penderfyniad: 04/06/2018

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 04/06/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Dogfennau Atodol:

  • Draft Council Plan for 2018/19