Manylion y penderfyniad
Disabled Facilities Grant Internal Audit Report 2017
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Diben:
To outline the findings of the 2017 scheduled
Internal Audit review of the Disabled Facilities Programme and to
discuss the control measures developed in response
Penderfyniadau:
Cyflwynodd yr Uwch-Archwilydd yr adroddiad yn crynhoi canfyddiadau adroddiad Archwilio Mewnol 2017 ar weithredu’r cynllun Grant Cyfleusterau i'r Anabl a’r ymatebion rheoli ar waith i ddelio â’r canfyddiadau hyn.
Eglurodd bod cwmpas yr archwiliad yn cynnwys gweinyddu’r cynllun o’r cam tendro i'r cam cwblhau’r gwaith, a gofynnodd i’r Aelodau nodi bod y gwasanaeth wedi bod drwy gyfnod trawsnewid. Roedd yr ardaloedd a amlygwyd ar gyfer gwella wedi eu manylu yn yr adroddiad, ynghyd â'r cynllun gweithredu rheolaeth a ddatblygwyd mewn ymateb i’r canfyddiadau.
Roedd y Rheolwr Gwasanaeth, Menter ac Adfywio yn rhoi eglurhad ar nifer o brosesau yn cael eu rhoi ar waith i gryfhau rheoliadau a chydymffurfedd. Byddai’r rhain hefyd yn galluogi gwell dealltwriaeth o amserlenni i helpu i wella perfformiad yn erbyn targedau. Roedd cynnydd ar gamau eraill yn cynnwys fframwaith caffael newydd i gyflymu’r broses, dal contractwyr i gyfrif a chyflawni gwerth am arian. Byddai sefydlu bwrdd trosolwg proffesiynol yn helpu i adolygu prosesau a monitro cynnydd ar y cynllun gweithredu. Roedd y Pwyllgor Archwilio wedi derbyn canfyddiadau'r adroddiad ac wedi trefnu diweddariad ymhen chwe mis, felly awgrymwyd efallai y byddai’r Pwyllgor hwn yn dymuno ystyried diweddariad yn nes ymlaen.
Roedd y Prif Weithredwr yn dyfynnu’r prif fater fel perfformiad a rhoddodd sicrwydd bod yr adroddiad wedi achosi pryder ac yn dangos gwerth y gwaith archwilio. Oherwydd pryderon am berchnogaeth a chyflymder ymatebion i’r canfyddiadau, roedd y bwrdd trosolwg proffesiynol wedi’i sefydlu i roi ymateb da i’r canfyddiadau ac roedd ganddynt nawr y dasg o adolygu a gwella prosesau drwy ddull dysgwr wedi’i reoli’n dda ac i geisio gwella perfformiad a safle Sir y Fflint ar DFG yn y tymor hwy. Rhoddwyd ymrwymiad i ddangos tryloywder gwaith ac adolygu rolau a chyfrifoldebau oedd yn ymwneud â Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai.
Cytunodd y Cynghorydd Attridge fod canfyddiadau’r adroddiad yn destun pryder ac yn derbyn sylw yn y cynllun gweithredu, a bod y Pwyllgor Archwilio yn fodlon gyda’r cynnydd hyd yma. Aeth ymlaen i ymrwymo i geisio gwelliant yn y gwasanaeth Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl oedd yn fater hir-sefydlog.
Siaradodd y Cynghorydd Palmer am yr angen i fwyhau cyfleoedd i gwmnïau lleol. Eglurodd swyddogion y byddai’r fframwaith caffael yn dyrannu gwaith i gwmnïau lleol a rhanbarthol.
Mewn ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Dolphin ar eiddo’r Cyngor a addaswyd yn flaenorol oedd nawr yn wag, rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth sicrwydd bod yna broses ar waith i adolygu opsiynau a chydweddu â’r ymgeisydd mwyaf addas. Hefyd, ymatebodd i ymholiad tebyg gan y Cynghorydd Hardcastle ar ailgylchu lifftiau grisiau sy’n cael eu symud o eiddo i’w defnyddio gan eraill sydd eu hangen.
Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth eglurhad i’r Cynghorydd Paul Shotton ar grantiau adleoli a benthyciadau ychwanegol oedd ar gael ar gyfer Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl dros y trothwy £36K – nad oedd gofyn mawr am yr un ohonynt.
Yn ystod trafodaeth, awgrymodd y Cynghorydd Attridge, bod y Pwyllgor yn derbyn yr un adroddiad diweddaru â’r Pwyllgor Archwilio ymhen chwe mis. Cytunodd a dywedodd y Prif Weithredwr er mwyn rhoi sicrwydd pellach i Aelodau, yr adroddir ar gynnydd fel rhan o adroddiad monitro Cynllun y Cyngor hefyd.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod cynnwys adroddiad Archwiliad Mewnol Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl a’r cynllun gweithredu rheoli gwasanaeth yn cael ei nodi; a
(b) Bod y Pwyllgor yn derbyn adroddiad diweddaru mewn chwe mis ar ôl ystyried cynllun gweithredu rheoli gwasanaeth gan y Pwyllgor Archwilio.
Awdur yr adroddiad: Niall Waller
Dyddiad cyhoeddi: 10/10/2018
Dyddiad y penderfyniad: 27/06/2018
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 27/06/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter
Accompanying Documents: