Manylion y penderfyniad
Follow Up Report Planning Enforcement
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Archwilio
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To present to the Committee the results of a
follow up review of the Planning Enforcement.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol yr adroddiad dilynol i’r adroddiad sicrwydd coch ar Orfodaeth Cynllunio a ystyriwyd gan y Pwyllgor ym mis Medi 2017. Rhoddodd wybod bod cynnydd rhesymol wedi’i wneud wrth weithredu’r argymhellion ac mai’r unig gam gweithredu sy’n weddill yw hyfforddi gweithwyr sydd wedi’i ohirio oherwydd ailstrwythuro’r tîm.
Fel diweddariad pellach ar gamau gweithredu allweddol, rhoddodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd a’r Economi) wybod y bydd ymatebion i’r ymgynghoriad ar fersiwn drafft diwygiedig y Polisi Gorfodaeth yn cael eu hystyried gan y Gr?p Strategaeth Cynllunio ym mis Gorffennaf, cyn ei fabwysiadu. Roedd ailstrwythuro’r tîm yn golygu bod y timau ardal r?an wedi’u cynnwys o fewn Gorfodaeth a bod gwaith ar fapio prosesau wedi’i gwblhau. Y newid mwyaf sylweddol oedd newid diwylliant yn y tîm a fydd yn cymryd amser i gael effaith lawn.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r cynnydd a wnaed wrth weithredu’r camau gweithredu o’r adroddiad gwreiddiol.
Awdur yr adroddiad: Lisa Brownbill
Dyddiad cyhoeddi: 26/07/2018
Dyddiad y penderfyniad: 06/06/2018
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 06/06/2018 - Pwyllgor Archwilio
Dogfennau Atodol: