Manylion y penderfyniad
Flint Foreshore Regeneration
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To detail progress on the development of plans for the regeneration of Flint Foreshore and propose to progress to the next stage of work with no financial implications for Flintshire County Council.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad ynghylch Adfywio Blaendraeth y Fflint, a oedd yn argymell mynd ymlaen i’r cam nesaf o ddatblygu Astudiaeth Ddichonoldeb Blaendraeth y Fflint a’r gwaith Ymchwil a Datblygu ar gyfer Celf Castell y Fflint. Roedd hynny’n cynnwys gwaith dylunio a datblygu manwl ar gyfer y cyfleuster ar y cyd, a gosod darn mawr o gelf gyhoeddus yng Nghastell y Fflint. Byddai unrhyw gynnydd yn amodol ar gydsyniad y partneriaid eraill yn y gwaith.
Diolchodd i’r Prif Swyddog (Rhaglenni Strategol) am y gwaith a wnaethpwyd ar gyfer y prosiect hwn, a fu’n heriol ar brydiau. Talodd y Cynghorydd Butler deyrnged hefyd i’r gwaith a wnaeth y Cynghorydd Roberts ar y prosiect.
PENDERFYNWYD:
(a) Derbyn y canfyddiadau yn yr adroddiad o ddichonolrwydd adfywio Blaendraeth y Fflint a bwrw ymlaen â’r gwaith manylach, gan gynnwys: dylunio a datblygu manwl, datblygu’r pecyn cyllid cyfalaf, a chynllunio busnes manwl; ac
(b) Derbyn y canfyddiadau yn adroddiad Ymchwil a Datblygu Celf Castell y Fflint, a bwrw ymlaen i ddatblygu darn mawr o gelf gyhoeddus yng Nghastell y Fflint, neu o’i gwmpas.
Awdur yr adroddiad: Ian Bancroft
Dyddiad cyhoeddi: 25/09/2018
Dyddiad y penderfyniad: 19/06/2018
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 19/06/2018 - Cabinet
Yn effeithiol o: 28/06/2018
Dogfennau Atodol: