Manylion y penderfyniad
Financial Procedure Rules
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir y Fflint
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To provide Constitution Committee with updated
Financial Procedure Rules for recommendation to County
Council.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad i ddarparu’r Rheolau Gweithdrefn Ariannol diweddaraf fel y manylwyd yn Atodiad A yr adroddiad. Darparodd wybodaeth gefndirol fod y Rheolau Gweithdrefn Ariannol drafft wedi’u cyflwyno i’r Pwyllgor Archwilio a Phwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd a bod y ddau bwyllgor wedi penderfynu cyfeirio’r Rheolau Gweithdrefn Ariannol at y Cyngor i’w cymeradwyo. Dywedodd bod crynodeb o’r newidiadau i’r Rheolau Gweithdrefn Ariannol i’w gael ym mharagraff 1.04 yr adroddiad.
Mynegodd y Cynghorydd Richard Jones bryder o ran y newid i swm y trosglwyddiad ariannol a oedd wedi cynyddu o £75K i £100K. Eglurodd pam ei fod yn credu bod y cynnydd i £100K yn amhriodol a dywedodd nad oedd cyllidebau wedi cynyddu. Cefnogodd y Cynghorydd Jones y cynnig i gymeradwyo’r Rheolau Gweithdrefn Ariannol, yn amodol ar y trosglwyddiad ariannol presennol o £75K yn cael ei ostwng i £50K i arfer gwell rheolaeth. ,Eiliwyd hyn.
Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod trosglwyddiad ariannol o £100K yn ganran isel iawn yng nghyd-destun y gyllideb gyffredinol o £255M a dywedodd fod pob trosglwyddiad ariannol yn cael ei adrodd i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol pan oedd cael ei wneud ac roedd rheolaeth a gydlynwyd yn ganolog yn cael ei weithredu gan y tîm cyfrifyddiaeth. Cytunwyd y byddai’r gais ‘cronnus' yn cael ei ychwanegu at fersiwn derfynol y Rheolau Gweithdrefn Ariannol.
Awgrymodd y Cynghorydd Mike Peers y dylid nodi’r dyddiad a’r flwyddyn roedd y Rheolau Gweithdrefn Ariannol yn dod i rym yn llawn ar dudalen flaen y rheolau. Cyfeiriodd at dudalen 83, paragraff 3.3.1, yr adroddiad a’r wybodaeth bod yr adnoddau a ddyrannwyd yn cael eu defnyddio ar gyfer y diben a fwriadwyd ac yn cael eu cyfri’n briodol, a gofynnodd a oedd modd darparu manylion o ran lle oedd yr adnoddau yn cael eu dyrannu a’r gwariant parhaus. Ar dudalen 86, paragraff 3.3.2, roedd yr egwyddor allweddol cyntaf yn cyfeirio at awdurdodi trosglwyddiadau cyllideb yn ymwneud â newid defnydd neu bolisi, ac nid oedd yr adroddiad yn nodi pwy ddylai awdurdodi’r trosglwyddiadau hyn ac awgrymodd y dylid cynnwys yr wybodaeth hon.
Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod awdurdodiad yn dibynnu ar a oedd y trosglwyddiad yn addasiadau cyfrifo neu’n ffurf ar drosglwyddiad ariannol ac eglurodd y broses a’r diben ym mhob achos. Ymatebodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol hefyd i'r ymholiad ynghylch y dyraniad o adnoddau ac eglurodd bod adnoddau yn cael dyrannu i feysydd gwasanaeth yn unol â’r cyllidebau a gymeradwywyd ac yn cael hadrodd yn yr adroddiad monitro cyllideb misol lle roedd y cyfansymiau yn cael eu dangos yn ôl portffolio.
Gofynnwyd i Aelodau bleidleisio ar y cynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Richard Jones i gymeradwyo’r Rheolau gweithdrefn ariannol, yn amodol ar newid swm y trosglwyddiad ariannol o £75K i £50K. Pan gafwyd pleidlais, gwrthodwyd y cynnig.
Cyflwynwyd y cynnig gwreiddiol, i Aelodau bleidleisio ar yr argymhelliad fel y manylwyd yn yr adroddiad, gan y Cynghorydd Bernie Attridge ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Derek Butler. Yndilyn pleidlais, cymeradwywyd yr argymelliad.
PENDERFYNWYD
Cymeradwyo’r Rheolau Gweithdrefn Ariannol wedi’u diweddaru
Awdur yr adroddiad: Gary Ferguson
Dyddiad cyhoeddi: 05/06/2018
Dyddiad y penderfyniad: 01/03/2018
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 01/03/2018 - Cyngor Sir y Fflint
Dogfennau Atodol: