Manylion y penderfyniad

Minimum Revenue Provision - 2018/19 Policy

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir y Fflint

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To present to Council the recommendations of the Cabinet in relation to the setting of a prudent Minimum Revenue Provision (MRP) for the repayment of debt.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad i gyflwyno argymhellion y Cabinet  i isod Isafswm Darpariaeth Refeniw synhwyrol er mwyn ad-dalu dyled, ac i adrodd yn ôl ar statws yr adolygiad parhaus o bolisi isafswm darpariaeth refeniw ac unrhyw gyngor pellach am y dewisiadau i ddiwygio’r polisi. 

 

Darparodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol wybodaeth gefndirol a chyfeiriodd at yr adolygiad diweddar o ddull y Cyngor o gyfrifo’r polisi Isafswm Darpariaeth Refeniw a’r manteision o newid i fodel arall yn debyg i lawer iawn o awdurdodau lleol yn Lloegr. Adroddodd ar y tri phrif opsiwn i’w hystyried a’r gwahaniaeth rhwng y dulliau llinell syth a blwydd-dal a nodwyd yn yr adroddiad. Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol pam y ffafriwyd y dull llinell syth yn adolygiad 2016/17 a pham y gellir ystyried y dull blwydd-dal yr un mor synhwyrol. Tynnodd sylw ar y tabl yn yr adroddiad a oedd yn crynhoi’r gwahaniaeth yn yr Isafswm Darpariaeth Refeniw a godwyd am wariant cyfalaf cronfa’r Cyngor heb ei dalu, syddwedi’i ariannu gan fenthyca â chymorth a benthyca digymorth gan ddefnyddio’r dull llinell syth presennol a’r dull blwydd-dal am y 50 mlynedd nesaf. 

 

Wrth ddod i gasgliad, dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod synhwyroldeb yn gysyniad goddrychol ac felly ni allai unrhyw un o’r dulliau neu’r opsiynau a ddisgrifiwyd gael eu hasesu fel y dull cywir gan fod bob dim yn fater o  farn.  Roedd yn rhaid i'r dewis fod yn synhwyrol ond eto’n gynaliadwy a fforddiadwy dros y tymor hir a chyfrifoldeb y Cyngor oedd penderfynu pa ddull oedd y mwyaf synhwyrol.

 

Cydnabu'r Prif Weithredwr  gymhlethdod y pwnc ac fe soniodd am y gwaith a wnaed ar yr adolygiad o’r polisi Isafswm Darpariaeth Refeniw y llynedd. Darparodd wybodaeth gefndirol a chyd-destun yr adolygiad brys o’r polisi Isafswm Darpariaeth Refeniw, yn dilyn argymhelliad a wnaed drwy adolygiad annibynnol diweddar o sefyllfa ariannol y Cyngor. Dywedodd y Prif Weithredwr, yn dilyn trafodaethau pellach gyda Swyddfa Archwilio Cymru ac ymgynghorwyr cadwedig, Arlingclose, bod swyddogion yn hyderus i argymell bod opsiwn 2, y dull blwydd-dal, yn ddull synhwyrol, cyson gyda chanllawiau, ac yn opsiwn ‘agored’ i’w ystyried gan y Cyngor.

 

Dywedodd y Cynghorydd Richard Jones nad oedd yn cefnogi’r argymhelliad ar gyfer opsiwn 2, gan nad oedd yn teimlo ei fod yn synhwyrol nac yn gynaliadwy oherwydd y byddai cynnydd yn y blynyddoedd i ddod.  Cyfeiriodd at adroddiad mewn cyfarfod Cabinet yn 2016 a’r cyngor a’r penderfyniad a wnaed ar yr adeg honno o ran synwyroldeb a’r Isafswm Darpariaeth Refeniw.  Awgrymodd parhau â’r dull llinell syth ar gyfer yr Isafswm Darpariaeth Refeniw er lles y cynllun ariannol tymor canolig.

 

Darparodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol eglurder pellach mewn ymateb i’r pryderon a godwyd gan y Cynghorydd Jones a dywedasant fod y dull blwydd-dal yr un mor synhwyrol â’r dull llinell syth presennol ac nid oedd y dull blwydd-dal am gostio mwy i’r Cyngor nac ychwaith i drethdalwyr Sir y Fflint gan ei fod yn ystyried gwerth amser arian.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Dave Mackie at y term ‘oes yr ased’ yn yr adroddiad a gofynnodd a oedd hyn yr un fath â hyd y benthyciad. Mynegodd bryder o ran os fyddai hyd y benthyciad yn fyrrach nag 'oes yr ased’  efallai na fyddai arian digonol ar gael yn y sefyllfa honno gan y byddai’r arian yn cael ei gredydu am gyfnod hirach.  Cyfeiriodd hefyd at y frawddeg olaf ym mharagraff 1.08 yr adroddiad a oedd yn cyfeirio at y posibilrwydd o ganllaw wedi’i ddiweddaru yn ddiweddarach yn y flwyddyn gan Lywodraeth Cymru ar osod y polisi Isafswm Darpariaeth Refeniw a gofynnodd a fyddai’n well aros nes bod y canllaw wedi’i dderbyn cyn newid yr Isafswm Darpariaeth Refeniw eto.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr, bod y canllaw presennol ar gyfer  y DU yn berthnasol i Gymru a dywedodd na fyddai mantais o aros, yn seiliedig ar brofiad blaenorol, gan bod disgwyl i'r canllaw newydd ar gyfer Cymru fod yn un fath â’r canllaw Saesneg newydd. Cyfeiriodd hefyd at yr ystyriaethau ariannol a phwysleisiodd fod y Cyngor wedi gorfod mabwysiadau polisi Isafswm Darpariaeth Refeniw ar gyfer 2017/18 erbyn 31 Mawrth 2018 a phe bai’r Cyngor yn cymeradwyo’r dull blwydd-dal, byddai’n rhyddhau arian yn 2017/18 ac yn y blynyddoedd i ddod. Ymatebodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol i’r pryderon a fynegwyd gan y Cynghorydd Mackie yngl?n ag ‘oes yr ased’ a chyfeiriodd at wariant hanesyddol a hyd bywyd yr asedau ar gyfartaledd, sef 50 mlynedd, a chostau benthyca.  

 

Pwysleisiodd y ddau swyddog fod rhaid gwneud penderfyniad yngl?n â’r Isafswm Darpariaeth Refeniw ar sail gosod polisi synhwyrol fel rhan o’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig, ac ni ddylid gwneud y penderfyniad fel mesur tymor byr i gefnogi’r broses o bennu’r gyllideb flynyddol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler ei fod yn cefnogi’r argymhelliad i gymeradwyo opsiwn 2 a oedd wedi’i gefnogi gan Swyddfa Archwilio Cymru ac ei argymell yn synhwyrol gan swyddogion, a dywedodd fod y sail resymegol wedi’i nodi’n glir yn yr adroddiad.

 

Siaradodd y Cynghorydd Bernie Attridge a’r Cynghorydd Arnold Woolley o blaid cymeradwyo opsiwn 2; y dull blwydd-dal.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Mike Peers at neilltuo adnoddau refeniw i dalu dyledion a gofynnodd am fwy o wybodaeth ynghylch faint oedd yn cael ei neilltuo a lle oedd y ffigyrau yn cael eu cyflwyno er gwybodaeth.     Tynnodd sylw at y cyfeiriad i ddogfen hanesyddol yn gysylltiedig â’r adroddiad a oedd yn cyfeirio at swm o £22.97M o arian mewnol a oedd yn ymwneud â gwariant cyfalaf, a gofynnodd am eglurhad o ran lle oedd y gronfa yn cael ei chadw ac at ba ddiben. Dywedodd Swyddogion fod yn swm o £22.97M o ganlyniad i lif arian / balansau o ddydd i ddydd ar yr adeg honno. Gofynnodd y Cynghorydd Peers am eglurder pellach o ran canlyniadau’r dull blwydd-dal. Cyfeiriodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol at y graff ar dudalen 48 yr adroddiad a darparu manylion pellach mewn ymateb i’r cwestiynau a godwyd gan y Cynghorydd Peers.

 

Cefnogwyd yr argymhellion yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Aaron Shotton a chawsant eu heilio. 

 

Pan gynhaliwyd pleidlais, cymeradwywyd y dull Opsiwn 2 a argymhellwyd – newid i’r dull blwydd-dal o 2017/18, yn ogystal ag argymhellion 2 a 3 fel nodwyd yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod Aelodau yn cymeradwyo gwariant cyfalaf heb ei ariannu Cronfa’r Cyngor, newid y polisi Isafswm Darpariaeth Refeniw ar gyfer benthycaâ chymorth a benthyca digymorth o ddull ‘llinell syth’ i’r dull ‘blwydd-dal’ o 2017/18. Byddai hyn yn golygu:-

 

  • Byddai balans hanesyddol y gwariant cyfalaf sy’n ddyledus wedi ei gyllido o fenthyca â chymorth, a osodwyd ar 31 Mawrth 2016, yn cael ei ddarparu ar ei gyfer ar sail dull blwydd-dal dros y 49 mlynedd sy’n weddill (gan y newidiwyd i linell syth dros 50 mlynedd yn 2016/17).

 

  • Bydd gwariant cyfalaf 2016/17 wedi ei gyllido o fenthyca â chymorth a benthyca digymorth (a blynyddoedd i ddod) yn cael ei ddarparu ar ei gyfer yn seiliedig ar oes yr ased ar sail blwydd-dal.

 

 (b)      Bod Aelodau’n cymeradwyo’r Cyfrif Refeniw Tai:-

 

  • Bod Opsiwn 2 (Dull Nawdd Cyfalaf Gofynnol) yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cyfrif Isafswm Darpariaeth Refeniw'r Cyfrif Refeniw Tai yn 2018/19 ar gyfer yr holl wariant cyfalaf sy’n cael ei ariannu gan ddyled.

 

 (c)       Bod Aelodau yn cymeradwyo fod yr Isafswm Darpariaeth Refeniw ar fenthyciadau gan y Cyngor i NEW Homes i adeiladu cartrefi fforddiadwy drwy’r Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (sy’n gymwys fel gwariant cyfalaf yn nhermau cyfrifeg) fel a ganlyn:-

 

  • Ni wneir Isafswm Darpariaeth Refeniw yn ystod y cyfnod adeiladu (sy’n fyr) gan nad yw’r ased mewn defnydd ac nad oes unrhyw fudd o’i ddefnydd.

 

  • Unwaith mae’r asedau’n cael eu defnyddio, bydd ad-daliadau cyfalaf yn cael eu gwneud gan NEW Homes.Bydd Isafswm Darpariaeth Refeniw’r Cyngor yn gyfartal â’r ad-daliadau a wnaed gan NEW Homes. Bydd yr ad-daliadau a wneir gan NEW Homes yn cael eu dosbarthu, yn nhermau cyfrifeg, fel derbyniadau cyfalaf, ac ni ellir defnyddio’r rhain ddim ond i ariannu gwariant cyfalaf neu ad-dalu dyled sy’n ffurf o isafswm darpariaeth refeniw.Bydd yr ad-daliad cyfalaf/derbyniadau cyfalaf yn cael eu neilltuo i ad-dalu dyled, a dyma yw polisi Isafswm Darpariaeth Refeniw y Cyngor i ad-dalu'r benthyciad.

 

Awdur yr adroddiad: Andrew Elford

Dyddiad cyhoeddi: 05/06/2018

Dyddiad y penderfyniad: 01/03/2018

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 01/03/2018 - Cyngor Sir y Fflint

Accompanying Documents: