Manylion y penderfyniad
Air Quality in Flintshire
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To provide an overview of the findings from
the regional Air Quality Report, prepared in August 2017, and
recommend how Flintshire County Council can do more to promote air
quality considerations when key strategic and operational decisions
are taken.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell yr adroddiad ar Ansawdd yr Aer yn Sir y Fflint oedd yn rhoi trosolwg a chanfyddiadau o’r Adroddiad Rhanbarthol ar Ansawdd yr Aer ac yn argymell sut y gallai’r Cyngor wneud mwy i hyrwyddo ystyriaethau ansawdd aer wrth wneud penderfyniadau strategol a gweithredol allweddol.
Y brif ffynhonnell llygredd aer yn Sir y Fflint oedd allyriadau o gerbydau ar y prif ffyrdd yn cysylltu Lloegr i weddill Gogledd Cymru, ar hyd yr A55 a'r A494 er enghraifft. Roedd rheoli ansawdd yr aer yn flaenoriaeth iechyd cyhoeddus ac roedd angen cydweithio'n lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol i wella’r aer yr oedd pobl yn ei anadlu.
Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd a’r Economi) fod yr adroddiad wedi’i gyflwyno i gyfarfod diweddar o Bwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd lle’r oedd wedi’i gefnogi’n lawn. Croesawodd yr aelodau’r adroddiad a chyfeiriwyd at ardaloedd o lygredd aer drwg fel yr A494, Parc Siopa Brychdyn a’r cyffiniau, a’r tu allan i ysgolion.
PENDERFYNWYD:
(a) Annog holl bolisïau a phenderfyniadau Cyngor Sir y Fflint, lle’r oedd hynny’n briodol, i ystyried yn rhagweithiol beth fyddai’r effaith ar ansawdd yr aer;
(b) Y dylai gwaith y Cyngor gyda’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, fel rhan o'u thema amgylcheddol, hyrwyddo dull amlasiantaethol o wella ansawdd yr aer; a
(c) Nodi cynnwys adroddiad cyfunol rhanbarthol Gogledd Cymru ar Ansawdd yr Aer. O ganlyniad i’r asesiad, nodir hefyd nad oes angen uwchgyfeirio unrhyw weithredu ac y bydd parhau i fonitro’r sefyllfa’n ddigon i gwrdd â’n hymrwymiadau cyfreithiol.
Awdur yr adroddiad: Sian Jones (Environment)
Dyddiad cyhoeddi: 03/07/2018
Dyddiad y penderfyniad: 22/05/2018
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 22/05/2018 - Cabinet
Yn effeithiol o: 01/06/2018
Dogfennau Atodol: