Manylion y penderfyniad
Draft Housing Revenue Account (HRA) Budget 2018/19 and 30 year Business Plan
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir y Fflint
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To present for consideration the draft Housing
Revenue Account (HRA) Budget for 2018/19, and the summary HRA 30
year Business Plan.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cymunedau a Menter) y cynigion terfynol ar gyfer Refeniw'r Cyfrif Refeniw Tai a’r Gyllideb Cyfalaf ar gyfer blwyddyn ariannol 2018/19, gan gynnwys y cynnydd arfaethedig mewn rhent a gytunwyd gan y Cabinet. Cylchredwyd copïau o'r argymhellion llawn gan y Cabinet.
Rhoddodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Asedau Tai gyflwyniad i gwmpasu’r canlynol:
· Cynllun busnes 30 mlynedd – y Cyfrif Refeniw Tai
· Canlyniadau 2017/18
o Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC)
o Rhaglen adeiladu tai y cyngor
o Perfformiad
· Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai 2018/19
· Incwm arall
· Taliadau gwasanaeth 2018/19
· Cynigion arbedion effeithlonrwydd y / pwysau ariannol cost y Cyfrif Refeniw Tai
· Rhaglen gyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai 2018/19
Cynigiwyd argymhellion y Cabinet gan y Cynghorydd Attridge, a eglurodd fod y cynnydd arfaethedig o 3% mewn rhent ar gyfer 2018 / 19 - sy’n is na’r lefel a osodwyd gan Lywodraeth Cymru – oherwydd gwaith ail fodelu gan y Cyngor i sefydlu lefel mwy fforddiadwy ar gyfer tenantiaid.
Wrth eilio’r cynnig, croesawodd y Cynghorydd Aaron Shotton fuddsoddiad ychwanegol rhaglen adeiladu tai y Cyngor a chyfeiriodd at bryderon am y nifer gynyddol o unigolion sy’n cael eu heffeithio gan y Credyd Cynhwysol a’r effaith ar ôl-ddyledion rhent.
Siaradodd y Cynghorydd Owen Thomas am bwysigrwydd sicrhau gwerth am arian wrth ddefnyddio contractwyr.
Fel Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Menter, diolchodd y Cynghorydd Dunbar i’r Prif Swyddog a siaradodd o blaid argymhellion y Cyngor sy’n darparu buddsoddiad pellach yn rhaglen adeiladu tai y Cyngor.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Peers at anghysondeb yn y system gynllunio oedd yn golygu nad oedd rhai datblygwyr yn gwneud y mwyaf o ddarpariaeth tai fforddiadwy. Dywedodd y Cynghorydd Butler bod swyddogion wedi adrodd yr aed i'r afael a'r mater hwn ar draws Cymru. Aeth ymlaen i ddisgrifio rhaglen adeiladu tai y Cyngor fel "balchder Cymru".
Diolchodd y Cynghorydd Roberts i’r Prif Weithredwr a’i thîm am ailddatblygu’r Fflint a gosod systemau ysgeintio d?r mewn fflatiau aml lawr. Talodd deyrnged i'r newid mewn diwylliant swyddogion i ddarparu gwasanaethau o ansawdd i drigolion.
Wrth grynhoi, diolchodd y Cynghorydd Attridge i Aelodau am eu sylwadau cadarnhaol a byddai’n gweithredu ar y rheiny yngl?n â’r defnydd o gontractwyr.
Ar ôl eu rhoi i bleidlais cymeradwywyd argymhellion y Cabinet.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2018/19 a’r Cynllun Busnes fel yr amlinellir yn yr atodiadau;
(b) Cymeradwyo’r opsiwn o osod cynnydd o 3% mewn rhent ar gyfer 2018/19 (yn ogystal â hyd at neu £2 yn llai), gyda rhenti targed yn berthnasol i denantiaethau newydd, fel cynnydd mwy fforddiadwy na fformiwla Polisi rhent Llywodraeth Cymru a fyddai'n gosod cynnydd o 4.5% (yn ogystal â hyd at neu £2 yn llai);
(c) Cymeradwyo cynnydd o £1 yr wythnos mewn rhenti garejys a chynnydd o £0.20 ceiniog yr wythnos mewn rhenti plotiau garejys; a
(d) Cymeradwyo Rhaglen Gyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai arfaethedig ar gyfer 2018/19 fel y nodwyd yn Atodiad C.
Awdur yr adroddiad: Lynne McAlpine
Dyddiad cyhoeddi: 10/05/2018
Dyddiad y penderfyniad: 20/02/2018
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 20/02/2018 - Cyngor Sir y Fflint
Dogfennau Atodol: