Manylion y penderfyniad
Council Fund Capital Programme 2018/19 – 2020/21
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir y Fflint
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To approve schemes for inclusion within the
Capital Programme over the 3 year period 2018/19 –
2020/21
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr Raglen Gyfalaf Cronfa’r Cyngor ar gyfer 2018/19 – 2020/21 i’w chymeradwyo. Roedd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol wedi cefnogi’r cynigion ac wedi rhoi adborth i’r Cabinet oedd wedi argymell y cynigion heb eu haddasu. Cylchredwyd copïau o ddatrysiad y Cabinet.
Gan gydnabod y gwaith a wnaed ar draws y sefydliad, amlygodd y Cynghorydd Shotton nifer o feysydd allweddol o fuddsoddiad fel gwelliannau ysgolion, adnoddau hamdden a disodli canolfan ofal dydd Glanrafon. Diolchodd i’r Cynghorydd Carolyn Thomas (Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad) a'r Cynghorydd Andrew Morgan (Arweinydd Rhondda Cynon Taf), llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar Gludiant, am ymwneud â’u trafodaethau i sicrhau cyllid ychwanegol ar gyfer gwelliannau priffyrdd ar draws Cymru.
Siaradodd y Cynghorydd Carolyn Thomas o blaid nifer o ddyraniadau yn y rhaglen i gefnogi ysgolion a meysydd chwarae, a chyfeiriodd at y meini prawf a ddefnyddir mewn gwahanol ffrydiau ariannu.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Richard Jones yn ei sylwadau at y Pwyllgor Adnoddau Corfforaethol a Chraffu ar ddeall goblygiadau ariannol y rhaglen ar y cyfrif refeniw yn y dyfodol. Atgoffodd y Prif Weithredwr y cyfarfod o’i ymrwymiad i adrodd am ymateb yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor hwn ac i adeiladu hyn i mewn i adrodd yn y dyfodol.
Fel Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol, croesawodd y Cynghorydd Christine Jones y buddsoddiad mewn cartrefi gofal ac yn benodol, y broses o ehangu Marleyfield House.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Peers ar ailddatblygu Theatr Clwyd, rhoddodd y Prif Weithredwr ddiweddariad lle roedd ymrwymiad yn cael ei geisio gan Lywodraeth Cymru i fabwysiadu hwn fel prosiect strategol o bwysigrwydd cenedlaethol, fel roedd wedi ei wneud gyda lleoliadau celfyddydol mewn llefydd eraill.
Gofynnodd y Cynghorydd Brown a oedd yn ddarbodus i'w Cyngor ymrwymo cyllid i gefnogi'r theatr yn ystod y cyfnod hwn o galedi ariannol. Mewn ymateb, dywedodd y Prif Weithredwr nad oedd yn ymarferol i’r Cyngor ei hun ariannu holl waith ail adeiladu'r theatr oedd yn cael ei gwerthfawrogi a'i chefnogi.
Ar ôl eu rhoi i bleidlais cymeradwywyd argymhellion y Cabinet.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y dyraniadau a chynlluniau yn Nhabl 4 o adroddiad y Cabinet ar gyfer rhannau Statudol / Rheoleiddiol ac Asedau Wrth Gefn Rhaglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor 2018/19 - 2020/21 yn cael eu cymeradwyo;
(b) Bod y cynlluniau yn Nhabl 5 adroddiad y Cabinet ar gyfer adran Buddsoddi Rhaglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor 2018/19 - 2020/21 yn cael eu cymeradwyo;
(c) Bod y diffyg cyllid ar gyfer cynlluniau ym mlynyddoedd ariannol 2019/20 a 2020/21 fel y nodir yn adroddiad y Cabinet yn cael ei nodi Bydd opsiynau gan gynnwys cyfuniad o dderbyniadau cyfalaf yn y dyfodol, grantiau eraill (os oes rhai ar gael), benthyca darbodus neu ail edrych ar gamau cynlluniau yn cael eu hystyried yn ystod 2018/19, a darperir diweddariadau i Aelodau mewn adroddiadau rhaglen gyfalaf yn y dyfodol;
(d) Bod datblygiad pellach ac adnewyddiad y Cynllun Rheoli Asedau a’r Strategaeth Gyfalafol hirdymor yn cael ei nodi;
(e) Y dylid nodi bod y Cabinet yn croesawu cais y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol am adroddiad ar effeithiau refeniw canlyniadol gwariant cyfalaf; ac
(f) Y dylid nodi bod Cabinet yn cytuno i holi Llywodraeth Cymru am gymorth gydag unrhyw gostau sy’n deillio o:
(i) Waith Atgyweirio Pont Sir y Fflint;
(ii) Rhannu cyfrifoldeb yn gynnar o flaen am unrhyw newidiadau sy’n deillio o’r “Llwybr Coch”; a
(iii)Traul a defnydd ar ffyrdd Sir y Fflint o ganlyniad i draffig wedi ei wyro oherwydd y gwaith ar yr A55.
Awdur yr adroddiad: Liz Thomas
Dyddiad cyhoeddi: 10/05/2018
Dyddiad y penderfyniad: 20/02/2018
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 20/02/2018 - Cyngor Sir y Fflint
Dogfennau Atodol: