Manylion y penderfyniad

Housing Revenue Account (HRA) 2018-19

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To consider the proposals for the Housing Revenue Account (HRA) for 2018-19.

Penderfyniadau:

Cyflwynwyd adroddiad i’r Pwyllgor i ystyried Cyllideb Ddrafft y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2018/19 a Chynllun Busnes 30 Mlynedd y Cyfrif Refeniw Tai.

 

Rhoddodd Rheolwr Asedau Tai a’r Cyfrifydd gyflwyniad i gwmpasu’r canlynol:

 

·         Cyflawniadau 2017/18

o   Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC)

o   Darpariaeth tai Cyngor

·         Cynllun busnes 30 mlynedd

·         Cyllideb 2018/19

o   Incwm

o   Arbedion effeithlonrwydd

o   Rhaglen Safon Ansawdd Tai Cymru

·         Gweithgarwch yn y dyfodol

 

Fel rhan o’r cyflwyniad, dangoswyd ffotograffau a oedd yn dangos y cyflawniad ar waith mewnol, gwaith allanol a gwaith amgylcheddol yn rhaglen Safon Ansawdd Tai Cymru.

 

 Croesawodd Cynghorydd Shotton gynnydd ar Safon Ansawdd Tai Cymru a chanmolodd ymateb prydlon y Cyngor o ran rhoi sicrwydd i denantiaid am dri bloc fflatiau uchel y sir yn dilyn y digwyddiad yn Nh?r Grenfell.  Roedd yr adeiladau yn y Fflint yn dri o ddim ond saith yng Nghymru lle roedd systemau chwistrellu mewnol eisoes wedi’u gosod ac roedd trefn archwilio diogelwch y Cyngor wedi bodloni safonau Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru.

 

Siaradodd Cynghorydd Dolphin am yr angen i gynnwys parcio digonol mewn datblygiadau newydd i ddiwallu anghenion preswylwyr gyda mwy nag un cerbyd.  Eglurodd Swyddogion, fel rhan o’r rhaglen amgylcheddol, roedd safleoedd fel plotiau garejys nad ydynt yn cael eu defnyddio yn cael eu nodi i drosi yn lleoedd parcio.  Gan ymateb i gwestiynau pellach, roedd gosodiadau ystafelloedd gwlyb yn berthnasol yn bennaf i lety gwarchod, fodd bynnag roedd hyblygrwydd yn y rhaglen i wneud darpariaeth ar gyfer addasiadau’r dyfodol i gefnogi tenantiaethau oes.   Cytunodd y Rheolwr Asedau Tai i roi gwybod i Aelodau lleol am asesiadau ‘ar droed’ yn eu wardiau i’w galluogi i gyfranogi, pe baent am wneud hynny.

 

Yn ystod trafodaethau am renti, dywedodd Cynghorydd Dolphin ei bod yn bwysig i denantiaid fod yn ymwybodol o opsiynau talu.  Eglurwyd bod rhenti targed yn berthnasol i 17% o denantiaid y Cyngor a bod y cynnig gan yr Aelod Cabinet ac Arweinydd y Cyngor i gyfyngu ar gynnydd y rhent i’r Mynegai Prisiau Defnyddwyr o ganlyniad i bryderon am fforddiadwyedd yn yr hinsawdd bresennol.  Ni fyddai’r Cyngor yn cael unrhyw gosbau wrth weithredu cynnydd is na’r hyn a argymhellir gan bolisi rhenti’r Llywodraeth.

 

Dywedwyd wrth Aelodau y byddai’r rhaglen y gofynnwyd amdani ar gyfer gwaith a gynlluniwyd ar gyfer pob ward yn cael ei ddatblygu gan Sean O’Donnell, yn dilyn ymadawiad y Rheolwr Tîm Gwaith Cyfalaf.

 

Rhoddodd Cynghorydd Hardcastle ganmoliaeth i’r gwelliannau yn y gwasanaeth Tai dros flynyddoedd diweddar.  Gan ymateb i ymholiadau, eglurodd swyddogion y dull o ran ailymweld ag eiddo lle nad oedd gwaith wedi’i gwblhau oherwydd gwrthod tenantiaid neu ddiffyg mynediad.  O ran taliadau gwasanaeth ar gyfer gwasanaethau golchdy, byddai swyddogion yn ymgysylltu â thenantiaid mewn llety â galw isel am wasanaethau i bennu’r canlyniad cywir.  Cytunodd y Cyfrifydd i ymateb ar wahân i ddarparu nifer y tenantiaid a aeth i’r llys am beidio talu rhenti.

 

Yn dilyn cwestiynau gan y Cynghorydd Palmer, eglurodd y Rheolwr Asedau Tai fod gwaith Safon Ansawdd Tai Cymru yn cael ei lywio gan yr arolygon o gyflwr y stoc a fyddai’n cael sylw eto tua diwedd y rhaglen.  Diolchodd y Cynghorydd Palmer i Swyddogion am eu help o ran mynd i’r afael â materion ymddygiad gwrthgymdeithasol.

 

O ran darpariaeth parcio ychwanegol, gofynnodd y Cynghorydd Wisinger am nifer y safleoedd garej lle roedd rhent yn daladwy a chyfeiriodd at nifer o safleoedd garej yn ei ward nad oeddent fel pe baent yn cael eu defnyddio bellach.   Dywedodd fod posibl trosi rhai ardaloedd glaswelltog yn lleoedd parcio, gan arbed ar waith torri glaswellt.  Eglurodd Swyddogion y byddai adroddiad am y rhaglen amgylcheddol, gan gynnwys adolygiad o safleoedd garej, yn cael ei rannu tua mis Mai 2018.  Roedd penderfyniadau am opsiynau ar gyfer y safleoedd hynny yn destun ymgynghoriad gyda’r Aelod Cabinet ac argaeledd cyllid.

 

Cododd y Cynghorydd Cox bryderon am effaith tai perchnogaeth breifat a oedd wedi bod yn wag am gyfnod hir, a chynghorwyd ei fod yn cyfarfod â Jenny Prendergast yn y tîm Iechyd yr Amgylchedd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Hughes fod darpariaeth annigonol o ran lleoedd parcio oddi ar y ffordd yn ei ward wedi arwain at broblemau traffig oherwydd bod cerbydau wedi parcio ar briffyrdd.  Dywedodd y Cynghorydd Attridge fod rhai tenantiaid wedi cymryd penderfyniad i greu darpariaeth oddi ar y ffordd eu hunain.  Awgrymodd fod unrhyw bryderon am ardaloedd penodol yn cael eu codi gyda swyddogion i’w hystyried fel rhan o’r broses gynllunio.

 

Awgrymodd y Cadeirydd a’r Prif Weithredwr newidiadau bach i eiriad yr argymhelliad cyntaf a’r ail argymhelliad i adlewyrchu cefnogaeth y Pwyllgor yn well.  Wrth bleidleisio, derbyniwyd y rhain.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Ar ôl ystyried yr adroddiad, bod y Pwyllgor yn cefnogi cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2018/19 a’r Cynllun Busnes fel a nodir yn yr atodiadau;

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi argymhellion yr Aelod Cabinet ac Arweinydd y Cyngor o ran gosod cynnydd rhent o 3% (a hyd at neu llai £2), gyda rhenti targed wedi’u defnyddio ar gyfer tenantiaethau newydd, fel cynnydd mwy fforddiadwy na fformiwla Polisi Rhenti Llywodraeth Cymru a fyddai’n gosod cynnydd o 4.5% (a hyd at neu llai £2);

 

(c)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi cynnydd o £1 yr wythnos mewn rhenti garejys a chynnydd o £0.20 yr wythnos mewn rhenti plotiau garejys; a

 

(d)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r Rhaglen Gyfalaf Cyfrif Refeniw Tai arfaethedig ar gyfer 2018/19 fel y nodwyd yn Atodiad D.

Awdur yr adroddiad: Clare Budden

Dyddiad cyhoeddi: 13/04/2018

Dyddiad y penderfyniad: 15/01/2018

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 15/01/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter

Accompanying Documents: