Manylion y penderfyniad

Revenue Budget Monitoring 2017/18 (Month 9) and Capital Programme Monitoring (Month 9)

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

The purpose of this report is to provide Members with the Revenue Budget Monitoring 2017/18 (Month 9) and the Month 9 (end of December) capital programme information for 2017/18.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid adroddiad ar y sefyllfa monitro’r gyllideb refeniw ar gyfer 2017/8 fel yr oedd ym mis 9 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai (CRT), a’r Rhaglen Gyfalaf, cyn iddynt gael eu hystyried gan y Cabinet.

 

 Monitro’r Gyllideb Refeniw

 

O ran Cronfa’r Cyngor, y rhagolygon o safbwynt y sefyllfa net yn y flwyddyn oedd y byddai’n £0.908m yn uwch na’r gyllideb, sef cynnydd o £0.062m o Fis 8.  Roedd y rhesymau dros yr amrywiadau rhagamcanol wedi eu nodi yn yr adroddiad.  Rhagamcanwyd y byddai 94% o’r arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd yn y flwyddyn yn cael eu gwireddu.

 

O ran olrhain risgiau yn y flwyddyn a materion sy’n dod i’r amlwg roedd gwaith i asesu’r effaith ar gyllideb 2018/19 wedi ei adrodd i’r Cabinet ym mis Ionawr  ac wedi ei gynnwys mewn cynigion cyllidol i’w cyflwyno i’r Cyngor Sir ar 20 Chwefror.  Tynnwyd sylw at y risg i gyllideb cynnal a chadw’r gaeaf yn dilyn y tywydd garw diweddar

 

Ar y CRT, rhagamcanwyd y byddai’r gwariant yn y flwyddyn £0.035m yn is na’r gyllideb, gan adael balans diwedd blwyddyn o £1.081m (yn uwch na’r lefel isaf a argymhellir).

 

Rhoddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol ddiweddariad ar yr adolygiad o gronfeydd lle’r oedd gwaith yn tynnu at y terfyn.  Dywedodd fod yr holl feysydd wedi’u hadolygu – nid dim ond y rhai hynny yr oedd y Pwyllgor wedi’u hadnabod –a bod cymhlethdodau o ran olrhain er mwyn sefydlu telerau a deall yr ymrwymiadau o ran proffiliau gwariant.  Rhoddodd grynodeb o statws a phwrpas pedwar maes y cronfeydd (sylfaenol, wrth gefn, wedi’u clustnodi a heb eu clustnodi) ac roedd yn hyderus fod lefel ddigonol o gronfeydd defnyddiadwy i gefnogi sefyllfa’r gyllideb yn 2018/19. 

 

Dywedodd y Prif  Weithredwr y byddai canlyniad yr adolygiad – a oedd yn destun manwl gywirdeb a her – yn cael ei adrodd i’r Cabinet.  Yr argymhelliad fyddai cefnogi rhyddhad darbodus rhai cronfeydd, gan gadw eraill i liniaru risg yn y dyfodol.    Byddai’r adroddiad i’r Cabinet a’r Cyngor Sir yn dweud mai’r defnydd o gronfeydd a chynnydd yn Nhreth y Cyngor yw’r unig opsiynau ar ôl i fantoli’r gyllideb.  Roedd yr her i gyllid ysgolion i dalu’n rhannol am bwysau cyflogau a chostau chwyddiant yn cael ei ystyried yn faes i risg sydd yn flaenoriaeth.

 

Dywedodd Cynghorydd Shotton ei bod yn deg herio cronfeydd wedi’u clustnodi nad ydynt wedi’u defnyddio ac y dylid ffurfio barn gytbwys ar lefel y risg cysylltiedig â phob cronfa

 

Croesawodd Cynghorydd Jones y gwaith ar yr adolygiad ac roedd yn derbyn nad oedd herio cronfeydd heb ei risg.  Roedd yn teimlo fod materion eraill yn y gyllideb yn bwysicach ac y dylai’r Pwyllgor asesu ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol a oedd cronfeydd wedi’u clustnodi yn angenrheidiol ar gyfer y flwyddyn ariannol ddilynol.

 

Mewn ymateb i gwestiynau, rhoddodd y Prif Weithredwr ddiweddariad ar gynnydd y Cytundeb Statws Sengl a’r gronfa ddal, lle’r oedd gwaith bron wedi’i gwblhau.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Peers, a oedd yn bresennol yn y galeri cyhoeddus, ynghylch y posibilrwydd o adolygu Cam 1 y broses er mwyn gweld a ellid dynodi unrhyw beth arall.  Dywedodd y Prif Weithredwr fod camau 1 a 2 yn awr yn gyflawn ac wedi’u cau, a rhoddodd grynodeb o’r ymdriniaeth gam wrth gam yr oedd yr Aelodau yn gyffredinol yn ei chefnogi.  Eglurodd fod cynllunio a gweithredu cynnar mewn perthynas â chynigion Cam 1 wedi bod yn angenrheidiol er mwyn caniatáu i’r broses symud yn ei blaen ac i wireddu lefel uchel o arbedion effeithlonrwydd yn erbyn y targed yn y flwyddyn.

 

Rhaglen Gyfalaf

 

      Roedd crynodeb o newidiadau i’r rhaglen yn ystod 2017/18 yn nodi cyfanswm cyllideb diwygiedig o £59.422m.  Yn ystod y chwarter blaenorol, bu cynnydd net o  £1.245m.  Dros y chwarter, argymhellwyd £1.289m o addasiadau i’w dwyn ymlaen i  2018/19 gan roi cyfanswm o £4.116m.

 

PENDERFYNWYD:

 

       Bod y Pwyllgor yn nodi Adroddiad Monitro Cyllideb  2017/19 ac yn cadarnhau ar yr achlysur hwn mai’r mater y mae’n dymuno ei ddwyn i sylw’r Cabinet yw’r angen i ystyried rhyddhau cronfeydd wedi’u clustnodi a allent gynnal Cyllideb Refeniw 2018/19;

 

      Bod y Pwyllgor yn nodi Adroddiad Mis 9 Rhaglen Gyfalaf 2017/18 ac yn cadarnhau ar yr achlysur hwn fod y materion y mae’n dymuno eu dwyn i sylw’r Cabinet wedi eu dynodi yn yr adroddiad ‘Datblygiad y Rhaglen Gyfalaf’ gynharach.

Awdur yr adroddiad: Sara Dulson

Dyddiad cyhoeddi: 05/04/2018

Dyddiad y penderfyniad: 15/02/2018

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 15/02/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Accompanying Documents: