Manylion y penderfyniad

Development of Capital Programme 2018/19 - 20/21

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To present the Capital Programme for the period 2018/19 to 20/21

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr (Newid Sefydliadol) adroddiad ar ddatblygiad Rhaglen Gyfalaf 2018/19-2020/21.  Roedd hyn yn cysylltu â’r Strategaeth Gyfalaf a’r Cynllun Rheoli Asedau a oedd i’w diweddaru yn ddiweddarach yn y flwyddyn er mwyn cefnogi blaenoriaethau cyfredol y Cyngor a blaenoriaethau mwy hirdymor sy’n dod i’r amlwg ac er mwyn adlewyrchu’r newidiadau i Godau Ymarfer y Sefydliad Siartredig Cyllid a Chyfrifeg Cyhoeddus (CIPFA). 

 

Darparodd y Rheolwr Cyllid – Cyfrifeg Technegol, eglurhad ar yr amrywiol dablau yn yr adroddiad yn dangos y cynlluniau dynodedig wedi’u rhannu’n dair adran – Statudol/Rheolaethol, Asedau Argadwedig a Buddsoddiad.   Roedd cynnydd o ran mynd i’r afael â’r diffyg amcangyfrifedig o £3.187m yng nghyllideb 2017/18 -19/20 wedi ffurfio rhan o’r adroddiadau monitro cyllideb rheolaidd a gyflwynwyd i’r Pwyllgor ac roedd cyflawniad y derbyniadau cyfalaf a ragwelwyd  wedi helpu i noddi’n llawn y rhaglen a gymeradwywyd ar gyfer 2017/18-20/21. Mae hyn yn dangos effeithiolrwydd polisi darbodus y Cyngor  o beidio â defnyddio derbynebau cyfalaf oni bai eu bod wedi eu gwireddu.

 

Roedd yr adroddiad yn nodi bod uchelgeisiau’r Cyngor yn gorbwyso’r cyllid sydd ar gael i gynnal y rhaglen dros y tair blynedd nesaf a dywedwyd y byddai cyllid Llywodraeth Cymru yn lleihau o £0.118m ar gyfer 2018/19.  Byddai’n rhaid ariannu’r diffyg cyffredinol o £8.216m ar gyfer ariannu cynlluniau arfaethedig yn ystod y cyfnod drwy gyflawni derbyniadau cyfalaf y dyfodol (a amcangyfrifir ar hyn o bryd i fod tua £8.3) neu opsiynau eraill megis grantiau amgen, benthyca darbodus neu gyflwyno cynlluniau fesul cam.

 

Cyfeiriodd Cynghorydd Shotton at amrywiol gynlluniau yn Rhaglen Gyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai sy’n cyflenwi Rhaglen Gyfalaf Cronfa’r Cyngor, a’r defnydd o asedau cyfalaf yn y Rhaglen Tai Cymdeithasol ac Adfywio. Amlygodd nifer o gynlluniau ychwanegol yn y Rhaglen Gyfalaf megis uwchraddio toiledau ysgolion, ymestyn/ailfodelu yn yr Hob a Bagillt ac adsefydlu cyfleuster gwasanaethau dydd pobl ag anableddau dysgu Glanrafon.

 Diolchodd hefyd i’w gydweithiwr ar GLlLC, Cynghorydd Andrew Morgan (Arweinydd Cynon Taf) am ei ran yn y trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau cyllid i gefnogi gwelliannau i’r priffyrdd lleol, gan gynnwys siâr o £1.427m ar gyfer Sir y Fflint

 

Holodd Cynghorydd Cunningham yngl?n â’r dyraniad a gymeradwywyd ar gyfer yr archwiliad o Bont Sir y Fflint a dywedwyd wrtho y byddai’n rhaid dadansoddi’r canlyniadau.  Tra bo’r Cyngor ar hyn o bryd yn atebol am gost unrhyw waith adferol  sy’n dod i’r amlwg yn yr archwiliad, gallai’r cyfrifoldeb am y ffordd dros y bont newid unwaith y bydd yr A494 yn dod yn ‘ffordd goch’ oherwydd y byddai'n dod yn rhan o gefnffordd ac felly’n gyfrifoldeb LlC. Yn dilyn trafodaethau pellach, cynigiodd Cynghorydd Marion Bateman y dylai’r Pwyllgor groesawu trafodaethau cynnar gyda LlC am y cydgyfrifoldeb dros unrhyw gostau sy’n deillio o’r  archwiliad, yng ngoleuni maint posibl y risg hwn.  Dywedwyd y byddai canlyniad yr archwiliad yn cael  ei adrodd i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a hefyd, os bydd yn effeithio ar y Rhaglen Gyfalaf, i’r Pwyllgor hwn.

 

Dywedodd Cynghorydd Jones ei bod yn bwysig deall effaith gwariant cyfalaf ar gynlluniau newydd yn y cyfrif refeniw.  Dywedodd y Rheolwr Cyllid ei bod yn anodd rhoi cyfanswm gan fod pob cynllun yn caniatáu ystyriaeth o’r canlyniadau refeniw, fodd bynnag mae’n debygol  mai ar elfen  buddsoddiad y rhaglen y bydd y prif bwysau ar refeniw.  Eglurodd nad oedd y ddau gynllun a ychwanegwyd at y rhaglen yn ystod 2018/19 wedi cael unrhyw effaith ar y gyllideb refeniw.

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr eglurhad ar y ddau fath o bwysau ar refeniw y mae rhai cynlluniau’n eu hachosi, a siaradodd am agwedd ‘risg is’ y Cyngor tuag at fenthyca. Gallai effaith posibl cynlluniau cyfalaf newydd ar refeniw ddigwydd o ganlyniad i gostau ariannol benthyca ychwanegol a/neu gostau ychwanegol rhedeg ased newydd megis staffio, ynni a chynnal a chadw ayyb.

 

Mewn perthynas â'r Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd, gofynnodd Cynghorydd Johnson a ellid gofyn i LlC am gyllid ychwanegol i atgyweirio ffyrdd gwledig a ddifrodwyd gan draffig a ddargyfeiriwyd o ganlyniad i waith ar yr A55.  Cytunodd y Prif Weithredwr a Chynghorydd Shotton y byddai hwn yn gais teg i’w wneud.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Gynghorydd Woolley ar ailddatblygiad Theatr Clwyd, dywedodd y Prif Weithredwr y gofynnwyd am sicrwydd gan LlC a Chyngor Celfyddydau Cymru y byddai’r prosiect yn cael ei gydnabod a’i ariannu fel prosiect o arwyddocâd cenedlaethol cyn y gallai’r Cyngor ymrwymo i fuddsoddi ymhellach.

 

Rhoddwyd eglurhad i Gynghorydd  Haydn Bateman  ar y dyraniad ar gyfer Prosiect Triniaeth Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru yn unol â’r cydgytundeb a wnaed ar gyfer cyfrifoldebau a rennir.

 

Yn dilyn ei sylwadau cynharach, cynigiodd Cynghorydd Jones y dylai’r Pwyllgor dderbyn adroddiad yn amlinellu effeithiau’r gwariant cyfalaf (cynlluniau newydd i’w cymeradwyo) ac yn manylu ynghylch yr effeithiau ar y cyfrif refeniw, gan gynnwys cost benthyca, costau refeniw gweithredol a manteision gweithredol. Dywedodd Cynghorydd Shotton, yn ogystal â chostau ychwanegol, y dylid hefyd nodi arbedion er mwyn rhoi darlun cyflawn. Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai’r adroddiad yn cael ei gyflwyno ym mis Mawrth neu fis Ebrill.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r dyraniadau a’r cynlluniau yn Nhabl 4 (paragraff  1.06.1) ar gyfer adrannau Statudol/Rheolaethol ac Asedau Argadwedig Rhaglen Gyfalaf Cronfa’r Cyngor 2018/19 - 2020/21;

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r cynlluniau a nodwyd yn Nhabl 5 (paragraff 1.07.1) ar gyfer adran Buddsoddiad Rhaglen Gyfalaf Cronfa’r Cyngor 2018/19 - 2020/21;

 

(c)       Bod y Pwyllgor yn nodi bod y diffyg yng nghynlluniau ariannu 2019/20 a 2020/21 (paragraff 1.08) ar y pwynt hwn yn y broses gymeradwyo yn hyblyg.  Bydd opsiynau sy’n cynnwys cyfuniad o dderbyniadau cyfalaf y dyfodol, grantiau amgen (os ar gael) benthyca darbodus neu gyflwyno cynlluniau fesul cam dros nifer o flynyddoedd yn cael eu hystyried yn ystod 2018/19 a’u cynnwys yn adroddiadau rhaglenni cyfalaf y dyfodol;

 

(d)       Bod y Pwyllgor yn nodi datblygiad pellach ac adfywiad Strategaeth Gyfalaf a Chynllun Rheoli Asedau ar gyfer y dyfodol; a 

 

(e)       Bod y Pwyllgor yn rhoi gwybod i’r Cabinet:

 

(i)    ei fod wedi gwneud cais am adroddiad sy’n amlinellu effaith gwariant cyfalaf (cynlluniau newydd i’w cymeradwyo) ac yn manylu ynghylch yr effeithiau ar y cyfrif refeniw, gan gynnwys cost benthyca, costau refeniw gweithredol a manteision gweithredol, ar gyfer cyfarfod mis Mawrth os yn bosibl, neu fel arall fis Ebrill;

 

(ii)   bod rhai pryderon yngl?n â chost unrhyw waith adferol a fydd yn angenrheidiol o ganlyniad i’r archwiliad o Bont Sir y Fflint.   Croesewir trafodaethau cynnar gyda LlC ar rannu cyfrifoldeb dros gostau, a hynny cyn unrhyw newidiadau a fydd yn digwydd o ganlyniad i sefydlu’r ffordd goch.  Canlyniadau’r archwiliad i’w hadrodd i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd ac os bydd yn effeithio ar y Rhaglen Gyfalaf, i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol hefyd; a

 

(iii)  gwahodd y Cabinet i ystyried gwneud cynrychioliadau i Lywodraeth Cymru yngl?n â’r draul ar ffyrdd sir y Fflint o ganlyniad i gael eu defnyddio fel ffyrdd dargyfeiriol yn ystod gwaith ar yr A55.

Awdur yr adroddiad: Andrew Elford

Dyddiad cyhoeddi: 05/04/2018

Dyddiad y penderfyniad: 15/02/2018

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 15/02/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Accompanying Documents: