Manylion y penderfyniad
Aura Leisure and Libraries Review of Progress
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To review progress of the first year of
operation and agree the Business Plan for 2018/19.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Newid Trefniadol) adroddiad Adolygiad o Gynnydd Hamdden a Llyfrgelloedd Aura a ddarparodd adolygiad o gynnydd o ran gyntaf y flwyddyn weithredu, copi o’r Cynllun Busnes arfaethedig ar gyfer Ebrill 2018 - Mawrth 2019, a diweddariad o gyfarfod y Bwrdd Partneriaeth a gynhaliwyd rhwng Cyngor Sir y Fflint a Hamdden a Llyfrgelloedd Aura ar 22 Chwefror 2018.
Cynigiodd y Cynghorydd Attridge fod Hamdden a Llyfrgelloedd Aura yn mynychu cyfarfodydd Cabinet i’r dyfodol pan fydd yna eitem yn ymwneud â nhw ar yr agenda, a gefnogwyd.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo Cynllun Busnes Hamdden a Llyfrgelloedd Aura ar gyfer y flwyddyn 2018/19 a dirprwyo awdurdod i’r Prif Swyddog, ar y cyd â’r Deilydd Portffolio ar gyfer Addysg, os na ellir cyflawni’r amcanestyniadau ariannol, gweithredu un neu bob un o’r tri phrosiect wrth gefn y manylir arnynt yn yr adroddiad;
(b) Cymeradwyo rhyddhau cyllid refeniw i Hamdden a Llyfrgelloedd Aura am y flwyddyn 2018/19 gan wneud cyfanswm o £3.773m; a
(c) Bod Aura yn mynychu ac yn cyflwyno i gyfarfodydd Cabinet y dyfodol pan fydd yr eitem ar yr agenda.
Awdur yr adroddiad: Ian Bancroft
Dyddiad cyhoeddi: 14/05/2018
Dyddiad y penderfyniad: 20/03/2018
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 20/03/2018 - Cabinet
Yn effeithiol o: 29/03/2018
Dogfennau Atodol:
- Aura Leisure and Libraries Review of Progress
- Enc. 1 for Aura Leisure and Libraries Review of Progress
- Enc. 2 for Aura Leisure and Libraries Review of Progress
- Enc. 3 for Aura Leisure and Libraries Review of Progress