Manylion y penderfyniad
Revenue Budget Monitoring 2017/18 (Month 10)
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To provide the latest revenue budget
monitoring position for 2017/18 for the Council Fund and Housing
Revenue Account (based on actual income and expenditure as at Month
10 projected forward to year end).
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2017/18 (Mis 10), a ddarparodd y sefyllfa monitro cyllideb refeniw gyfredol ar gyfer 2017/18 i Gronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Cyflwynodd yr adroddiad y sefyllfa ar sail incwm a gwariant gwirioneddol, a rhagwelodd sut byddai’r gyllideb yn sefyll wrth gloi’r flwyddyn ariannol os ydy pethau’n parhau’n gyfartal.
Dyma oedd y sefyllfa a ragwelir ar ddiwedd y flwyddyn:
Cronfa’r Cyngor:
- Mae gwariant net yn y flwyddyn yn rhagweld diffyg gweithredu o £0.375m;
- Roedd y sefyllfa yn y flwyddyn gyffredinol a ragwelwyd bellach yn cynnwys £1.422m oherwydd y newid mewn polisi cyfrifo ar gyfer y ffioedd Isafswm Darpariaeth Refeniw a gytunwyd gan y Cyngor Sir ar 1 Mawrth. Cafodd hyn yr effaith o ddileu’r diffyg gweithredu gyda disgwyl i’r gwariant net fod £1.047 yn llai na’r gyllideb; a
- Balans Cronfa Wrth Gefn a Ragwelir ar 31 Mawrth o £8.119m ond cafodd hynny ei ostwng i £5.714m wrth ystyried y cyfraniadau a gytunwyd ar gyfer cyllideb 2018/19.
Y Cyfrif Refeniw Tai:
- Rhagwelir y bydd y gwariant net yn y flwyddyn £0.035 yn fwy na’r gyllideb; a
- Banals cronfa wrth gefn a ragwelir ar 31 Mawrth 2018 o £1.081m.
Crynhowyd y rhesymau am yr amrywiadau a ragwelir yn yr atodiad i’r adroddiad gan esbonio’r amrywiadau portffolio arwyddocaol allweddol yn yr adroddiad.
Cwmpasodd yr adroddiad y rhagolwg yn y flwyddyn diweddaraf yn ôl portffolio; symudiadau sylweddol rhwng cyllideb Mis 9 a Mis 10; cyflawni arbedion cynlluniedig yn y flwyddyn; olrhain risgiau yn y flwyddyn a materion yn dod i’r amlwg; cynnal a chadw dros y gaeaf; chwyddiant a chronfeydd a balansau.
Yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol diweddar, gwnaed sylwadau ar y canlyniad a ragwelir ar gyfer lleoliadau y Tu Allan i’r Sir a ffioedd ar draws Cymru, a gosod targedau incwm realistig mewn rheoli pla.
Esboniodd y Prif Weithredwr fod cyllid grant ychwanegol o £0.428m wedi’i adrodd yn y gwasanaeth Pobl H?n ac mai cyllid ydoedd i gyfrannu at y gwariant ychwanegol a achoswyd mewn Gwasanaethau Cymdeithasol oherwydd pwysau’r gaeaf. O ran arbedion cynlluniedig yn y flwyddyn, byddai 94% yn cael ei gyflawni a oedd 1% yn llai na’r targed a gytunwyd. Roedd amrywiaeth hefyd mewn Strydwedd a Chludiant oherwydd bod y cynnydd mewn ffioedd parcio ceir ond yn berthnasol am 10.5 mis eleni yn lle 12.
Rhoddodd y Cynghorydd Shotton sylwadau ar y costau i gyllideb cynnal a chadw’r gaeaf yn dilyn y tywydd andwyol diweddar a barhaodd i roi pwysau ar gyllideb cynnal a chadw’r gaeaf. Roedd y gwasanaeth eisoes wedi rhagori ar nifer ei gynyrchiadau a rhagwelwyd y byddai’r gwariant hwnnw’n £1.059m a ragorodd ar y gyllideb gan £0.215m. Fodd bynnag, byddai hynny’n cael ei wrthbwyso trwy dynnu grant i lawr a glustnodwyd ar gyfer creighalen.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r adroddiad cyffredinol a swm wrth gefn disgwyliedig Cronfa’r Cyngor ar 31 Mawrth 2018; a
(b) Chymeradwyo’r trosglwyddiad o £0.250m o’r gronfa wrth gefn i warchodfa wedi’i chlustnodi i’w defnyddio rhag ofn y bydd unrhyw faterion ariannol yn codi o ganlyniad i weithredu gwahanol ddulliau cyflwyno gwasanaethau; a
(c) Nodi lefel derfynol y balansau a ragwelir ar y Cyfrif Refeniw Tai.
Awdur yr adroddiad: Jonathan M Davies
Dyddiad cyhoeddi: 14/05/2018
Dyddiad y penderfyniad: 20/03/2018
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 20/03/2018 - Cabinet
Yn effeithiol o: 29/03/2018
Dogfennau Atodol: