Manylion y penderfyniad
Discretionary Rate Relief Scheme for 2017-18 and 2018-19
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Yes
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Yes
Diben:
To amend the Discretionary Rate Relief Policy
Framework for 2017-18 and 2018-19 with the primary aim of awarding
additional rate relief to charities and voluntary groups occupying
small premises with rateable values of £6,000 or less.
Penderfyniadau:
Ar ôl datgan buddiannau personol a buddiannau sy’n rhagfarnu yn gynharach, bu i’r Cynghorwyr Bithell a Thomas adael yr ystafell.
Bu i’r Cynghorydd Shotton gyflwyno adroddiad Cynllun Rhyddhau treth Dewisol ar gyfer 2017/18 a 2018/19.
Yn dilyn sylwadau gan Aelodau, sefydliadau Elusennol a Hysbysiad o Gynnig yng nghyfarfod y Cyngor Sir ar 30 Ionawr 2018, cafodd swyddogion y dasg o archwilio dichonolrwydd newid cynllun Rhyddhau Treth Dewisol 2017/18 drwy ailgyflwyno rhyddhad ‘ategol’ dewisol o 20% wedi ei dargedu’n benodol tuag at Elusennau, a sefydliadau Gwirfoddol a Chymunedol oedd yn meddiannu safleoedd bychan oedd â gwerth trethadwy o hyd at £6,000.
Amlinellwyd newidiadau posibl yn yr adroddiad fyddai’n sicrhau y byddai tua 88 o Elusennau a sefydliadau Gwirfoddol a Chymunedol sy’n meddiannu safleoedd bychan yn elwa o ryddhad treth o 100%, wedi ei arianni drwy gyfuniad o Ryddhau Treth Gorfodol a/neu Dewisol. Byddai’r newidiadau arfaethedig yn sicrhau bod y sefydliadau hynny yn cael eu trin yn yr un modd â busnesau ‘dielw’ bychan oedd yn gymwys i dderbyn rhyddhad treth 100% fel rhan o Gynllun Rhyddhau Treth Busnesau Bychan (SBR) Llywodraeth Cymru (LlC) a ariennir yn llawn.
Eglurodd y Rheolwr Refeniw y byddai goblygiadau ariannol y newidiadau yn golygu costau i’r Cyngor o £16,200 yn 2017/18, y gellid talu amdano o’r ddarpariaeth cyllid presennol a neilltuwyd er mwyn delio â cheisiadau caledi posibl, a £18,000 ar gyfer 2018/19 fyddai’n bwysau ar y gyllideb.
Bu i’r Cynghorydd Attridge ddiolch i’r Rheolwr Refeniw am y gwaith a wnaethpwyd ar yr eitem hon a arweiniodd at 88 o Elusennau a sefydliadau Gwirfoddol a Chymunedol yn elwa o ryddhad treth 100%.
Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y byddai hynny yn newid ychydig ar y ffigyrau cyllid o ran defnyddio cronfeydd wrth gefn ar gyfer 2018/19, gyda chynnydd o £1.945m o’r £1.927m a adroddwyd yn gynharach fel rhan o’r eitem gyllideb.
PENDERFYNWYD:
(a) Cytuno ar newid ôl-weithredol i fframwaith polisi 2017/18 er mwyn darparu rhyddhad ‘ategol’ Dewisol o 20% i bob sefydliad Elusennol sydd eisoes yn elwa o Ryddhad Treth Gorfodol o 80% ac sy’n meddiannu safle bychan sydd â gwerth trethadwy o hyd at £6,000.
(a) Cytuno ar newid ôl-weithredol i fframwaith polisi 2017/18 er mwyn cynyddu dyfarniadau Dewisol o 20% i bob sefydliad Gwirfoddol a Chymunedol sydd ar hyn o bryd yn derbyn Rhyddhad Treth Gorfodol o 80% ac sy’n meddiannu safle bychan sydd â gwerth trethadwy o hyd at £6,000.
(c) Nodi y bydd goblygiadau ariannol y newidiadau polisi yn costio £16.2k ar gyfer 2017/18 a thua £18k ar gyfer 2018/19.
Awdur yr adroddiad: David Barnes
Dyddiad cyhoeddi: 09/04/2018
Dyddiad y penderfyniad: 20/02/2018
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 20/02/2018 - Cabinet
Yn effeithiol o: 01/03/2018
Accompanying Documents: