Manylion y penderfyniad
Draft Housing Revenue Account (HRA) Budget 2018/19 & 30 Year Business Plan
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Yes
Diben:
To present for consideration the draft Housing
Revenue Account (HRA) Budget for 2018/19, and the summary HRA 30
year Business Plan.
Penderfyniadau:
Bu i’r Cynghorydd Attridge gyflwyno Cyllideb Cyfrir Refeniw Tai (HRA) Drafft 2018/19 a Chynllun Busnes 30 Mlynedd.
Roedd y blaenoriaethau strategol ar gyfer y flwyddyn, a’r cynllun busnes yn cynnwys:
· Cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru (WHQS) erbyn 2020 a darparu buddsoddiad parhaus digonol er mwyn cynnal lefelau WHQS;
· Ar ôl dadgyfuno rhenti, symudiad parhaus tuag at gostau gwasanaeth effeithlon ac adennill costau yn llawn;
· Parhau i bontio rhenti er mwyn cyrraedd targedau Llywodraeth Cymru (LlC);
· Pennu cyllideb gytbwys gydag o leiaf 3% o warged refeniw ar wariant;
· Gwneud y mwyaf o effeithlonrwydd refeniw er mwyn lleihau’r benthyciadau fydd eu hangen i gyrraedd WHQS erbyn 2020; a
· Darparu tai Cyngor newydd.
Roedd polisi LlC yn caniatáu hyblygrwydd i bob landlord i bennu’r band rhent ar nal ai rent targed, 5% yn is neu 5% yn uwch. Roedd y Cyngor wedi cytuno i bennu rhenti Sir y Fflint yn achos y stoc presennol ar y lefel targed er mwyn cynorthwyo fforddiadwyedd tenantiaid. Mae rhenti ar gyfer tai newydd wedi cael eu pennu ar 5% yn uwch na’r targed. Roedd y mynegeion chwyddiant a ddefnyddiwyd ar gyfer codi rhenti bob blwyddyn yn seiliedig ar Fynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) yn ystod y mis Medi blaenorol, a gwir gynnydd o 1.5% Roedd CPI ar gyfer Medi 2017 yn 3%, plws 1.5%, oedd yn rhoi chwyddiant rhent o 4.5% ar gyfer 2018/19. Roedd yna bryder am fforddiadwyedd cynnydd sylweddol, ac ar ôl ystyried yr opsiynau eraill a gwrando ar safbwyntiau’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a’r Ffederasiwn Tenantiaid, argymhellodd y Cynghorydd Attridge y dylai’r cynnydd mewn rent fod yn 3% a hyd at £2 ar gyfer 2018/19.
Eglurodd y Prif Swyddog (Cymuned a Menter) y byddai’r gostyngiad mewn incwm i’r Cyngor, o ganlyniad i bennu’r incwm is a argymhellwyd, yn £300,000 yn 2018/19. Nid oedd hynny’n effeithio’n negyddol ar allu’r Cyngor i gyrraedd WHQS erbyn 2020, nac i gyflawni rhwymedigaethau ei raglen tai newydd. Ychwanegodd bod trafodaethau yn mynd yn eu blaenau gyda LlC ynghylch a ellid cynyddu’r cap ar fenthyca.
Bu i’r Cynghorydd Thomas groesawu’r adroddiad a bu iddo ganmol buddsoddiad y Cyngor mewn stoc tai.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Shotton at y cynnydd mewn ôl-ddyledion rhent yn achos y tenantiaid hynny oedd yn derbyn Credyd Cynhwysol, a gofynnodd sut y byddai hynny yn cael ei reoli. Dywedodd bod nifer y taliadau tai dewisol wedi dyblu yn ystod y tri mis diwethaf, oedd yn arwydd o’r problemau yn y sector preifat, a phwysleisiodd bwysigrwydd rhaglen tai newydd y Cyngor fyddai’n arwain at y rhenti isaf yn y sir i denantiaid. Eglurodd y Prif Swyddog (Cymuned a Menter) bod yr ôl-ddyledion rhent yn £200k yn fwy na’r flwyddyn flaenorol, a hynny cyn cyflwyno Credyd Cynhwysol. Roedd swyddogion yn gweithio â chwsmeriaid er mwyn sefydlu rhaglenni ad-dalu er mwyn mynd i'r afael ag unrhyw ôl-ddyledion.
PENDERFYNWYD:
(a) Dylai’r Cyngor gymeradwyo ac argymell cyllideb Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer
2018/19 a’r Cynllun Busnes;
(b) Dylid cymeradwyo’r opsiwn o bennu cynnydd rhent ar gyfer 2018/19, ac y dylid argymell hynny i’r Cyngor, ar 3% (plws neu namyn £2), gyda rhenti targed yn cael eu cymhwyso ar gyfer tenantiaethau newydd, fel cynnydd mwy fforddiadwy na fformiwla Polisi rhent Llywodraeth Cymru fyddai’n pennu cynnydd o 4.5% (plws neu namyn £2);
(c) Dylid cymeradwyo ac argymell i’r Cyngor gynnydd mewn rhent garej o £1 yr wythnos a chynnydd mewn rhent plot garej o £0.20c yr wythnos; a
(d) Dylid cymeradwyo’r Rhaglen Cyfalaf Cyfrif Refeniw Tai 2018/19 arfaethedig a’i hargymell i’r Cyngor.
Awdur yr adroddiad: Lynne McAlpine
Dyddiad cyhoeddi: 09/04/2018
Dyddiad y penderfyniad: 20/02/2018
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 20/02/2018 - Cabinet
Yn effeithiol o: 01/03/2018
Accompanying Documents:
- Draft Housing Revenue Account (HRA) Budget 2018/19 & Capital Programme 2018/19 PDF 100 KB
- Enc. 1 for Draft Housing Revenue Account (HRA) Budget 2018/19 & Capital Programme 2018/19 PDF 532 KB
- Enc. 2 for Draft Housing Revenue Account (HRA) Budget 2018/19 & Capital Programme 2018/19 PDF 86 KB
- Enc. 3 for Draft Housing Revenue Account (HRA) Budget 2018/19 & Capital Programme 2018/19 PDF 46 KB