Manylion y penderfyniad
Community Resilience and Community Benefits Strategy
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To provide a brief overview of the work being done to build on previous work to grow the social sector through social enterprise development.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Newid Sefydliadol) yr adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg o'r gwaith sy'n cael ei wneud i adeiladu ar y gwaith blaenorol i ddatblygu’r sector cymdeithasol trwy ddatblygu menter gymdeithasol.
Roedd cyflawniadau ar Drosglwyddo Asedau Cymunedol a Modelau Darparu Amgen wedi helpu i gryfhau’r sector cymdeithasol a gwydnwch cymunedol. Cafodd hyn ei gefnogi gan waith y Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus ac mae eu cynllun llesiant yn cynnwys amrywiaeth o fentrau i ddatblygu’r is-flaenoriaeth ‘Cymunedau Gwydn’ o dan flaenoriaeth ‘Cyngor wedi’i Gysylltu’ yng Nghynllun y Cyngor. Mae’r Strategaeth Budd Cymunedol, a gymeradwywyd gan y Cabinet yn ddiweddar, yn nodi’r buddion y gellir eu defnyddio ym mhob math o gontract caffael ac roedd yn declyn i asesu lefel y budd a gyflawnir gan sefydliad.
Dywedodd y Cynghorydd Shotton bod yr adroddiad yn un eang a bod y prosiectau a restrwyd wedi’u cysylltu ag uchelgeisiau yng Nghynllun y Cyngor. Roedd llwyddiant y gwaith hyd yn hyn wedi helpu i adeiladu capasiti a byddai datblygiad pellach yn helpu i annog perchenogaeth gymunedol a hyrwyddo gwariant lleol. Roedd cyflawniadau mentrau cymunedol yng Nglannau Merswy yn enghraifft lle gallai’r Cyngor ddefnyddio dysgu i fod o fudd i’r economi leol.
Fe ganmolodd y Cynghorydd Hutchinson y modd roedd llyfrgell a chanolfan hamdden Bwcle yn cael ei redeg gan Aura Leisure & Libraries. Wrth ymateb i gwestiynau, cafwyd eglurhad am faterion gan gynnwys cynnydd gyda Throsglwyddo Asedau Cymunedol ar gyfer canolfan gymunedol Bwcle i allu derbyn grwpiau gwahanol a’r gefnogaeth sydd ar gael trwy fenter gymdeithasol ‘Amser Babi Cymraeg’.
Croesawodd y Cynghorydd Dunbar lwyddiant y rhaglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol. Gan gyfeirio at y cwestiynau, siaradodd y Prif Swyddog am adeiladu gwydnwch cymunedol a set sgiliau fel rhan waith wedi’i seilio yn yr ardal a gefnogwyd yn flaenorol gan Cymunedau yn Gyntaf. Rhoddodd fanylion hefyd am bartneriaethau o fewn y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
Wrth ymateb i sylwadau ar fentrau Rhannu Cymunedol mewn rhannau eraill o'r DU, dywedodd y Cynghorydd Shotton bod egwyddorion caffael gyda chwmnïau lleol ymysg uchelgeisiau’r Cyngor. Roedd y Strategaeth Budd Cymunedol yn cynnwys nodau penodol a oedd yn gysylltiedig â rhai Cymunedau yn Gyntaf ond nid oeddynt yn cymryd lle’r rhaglen honno a oedd wedi cael ei ddirwyn i ben gan Lywodraeth Cymru.
Croesawodd y Cadeirydd ymdrechion y Cyngor i wneud y gorau y gallai i barhau â’r gwaith yn y meysydd hynny.
Er bod y Cynghorydd Heesom yn cefnogi unrhyw fecanwaith i reoli pwysau ar wasanaethau cymdeithasol, dywedodd nad oedd yn teimlo y byddai gwaith yn seiliedig yn yr ardal yn lleihau’r galw ar y gwasanaethau hynny. Wrth ymateb i sylwadau pellach, eglurodd y Cynghorydd Shotton bod rhai o’r themâu y tu ôl i Rannu Cymunedol yn ymwneud â modelau perchenogaeth gymunedol o gyflawni. Roedd lleihau’r galw ar wasanaethau cymdeithasol yn rhan o'r strategaeth, er enghraifft y gymdeithas gymunedol 'Toe to Toe' a oedd yn cynnig gwasanaeth fforddiadwy, hygyrch i helpu i atal problemau iechyd parhaus.
O ran contractau caffael, fe eglurodd y Prif Swyddog mai’r amcan oedd i gontractwyr ddangos gwerth am arian a chyflawni buddion cymunedol realistig.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Dunbobbin at un o gydweithredfeydd annibynnol mwyaf Sbaen fel enghraifft gadarnhaol o fenter gymdeithasol.
Fe nododd y swyddogion gais gan y Cadeirydd i beidio â defnyddio pwyntiau bwled a thiciau mewn atodiadau. Cafodd ei gynnig bod y Pwyllgor yn cefnogi’r argymhellion ei eilio a’i gytuno.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn cefnogi'r dull gyffredinol i ddatblygu Gwydnwch Cymunedol; a
(b) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r Strategaeth Budd Cymunedol drafft a'r dull o weithredu'r Strategaeth hon.
Awdur yr adroddiad: Ian Bancroft
Dyddiad cyhoeddi: 02/01/2018
Dyddiad y penderfyniad: 27/11/2017
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 27/11/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol
Dogfennau Atodol: