Manylion y penderfyniad
Revenue Budget Monitoring 2017/18 (MONTH 7)
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To provide the latest revenue budget monitoring position for 2017/18 for the Council Fund and Housing Revenue Account (based on actual income and expenditure as at Month 75 projected forward to year end).
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad Monitro’r Gyllideb Refeniw 2017/18 (Mis 7) a oedd yn cynnig y sefyllfa bresennol o ran monitro’r gyllideb refeniw ar gyfer 2017/18 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Roedd yr adroddiad yn cyflwyno’r sefyllfa, ar sail incwm a gwariant gwirioneddol, a rhoi amcanestyniad o beth fyddai sefyllfa'r gyllideb ar ddiweddglo'r flwyddyn ariannol pe bai popeth yn aros yn gyfartal.
Y sefyllfa a amcanestynwyd ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, heb liniaru i leihau pwysau o ran cost a gwella’r arenillion ar gynllunio arbedion effeithlonrwydd, oedd:
Cronfa’r Cyngor:
· Rhagwelid y bydd gwariant net yn ystod y flwyddyn £1.262 miliwn yn uwch na’r gyllideb; a
· Y balans cronfa hapddigwyddiad a amcanestynnir ar 31 Mawrth 2018 yw £3.820 miliwn.
Cyfrif Refeniw Tai:
· Rhagwelid y bydd gwariant net yn ystod y flwyddyn £0.03 miliwn yn uwch na’r gyllideb; a
· Y balans cloi a amcanestynnir ar 31 Mawrth 2018 yw £1.081 miliwn.
Roedd yr adroddiad yn cwmpasu’r rhagolwg yn ystod y flwyddyn diweddaraf yn ôl portffolio; gan olrhain risgiau yn ystod y flwyddyn a materion sy’n dod i’r amlwg; chwyddiant; a chronfeydd wrth gefn a balansau.
O ran balansau ysgolion, eglurodd Cynghorydd Roberts fod nifer o Ysgolion Uwchradd â diffyg, gyda chynlluniau gweithredu cadarn i’w lleihau, a oedd wedi’u gwrthbwyso gan yr Ysgolion Cynradd.
Eglurodd Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod dau sylw penodol wedi’u gwneud yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol diweddar: (1) bod y tri maes tanwariant yn y Gwasanaethau Cymdeithasol yn cael eu hadrodd i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Iechyd a Gofal Cymdeithasol; a (2) a ellid trin balansau penodol ar refeniw yn yr un ffordd â chronfeydd wrth gefn cyfalaf. Byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ar yr ail gais i egluro’r goblygiadau.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r adroddiad cyffredinol a nodi’r swm hapddigwyddiad a amcanestynnwyd ar gyfer Cronfa’r Cyngor ar 31 Mawrth 2018; a
(b) Dylid nodi'r lefel terfynol o falensau a amcanestynnwyd ar y Cyfrif Refeniw Tai.
Awdur yr adroddiad: Jonathan M Davies
Dyddiad cyhoeddi: 23/01/2018
Dyddiad y penderfyniad: 19/12/2017
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 19/12/2017 - Cabinet
Yn effeithiol o: 06/01/2018
Dogfennau Atodol: