Manylion y penderfyniad
Corporate Parenting Strategy
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To scrutinise and endorse proposed actions to develop a new Corporate Parenting Strategy.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd yr Uwch-reolwr (Plant a’r Gweithlu) yr adroddiad ar ddatblygu Strategaeth Rhianta Corfforaethol newydd yng nghyd-destun y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a datblygiadau cenedlaethol ar rianta corfforaethol.
Tynnodd sylw at weithdy i Aelodau ar ddiogelu a rhianta corfforaethol i’w gynnal y mis canlynol ac fe ddywedodd bod 220 o blant yn derbyn gofal ar hyn o bryd yn Sir y Fflint. Roedd gwybodaeth a gafwyd o weithgarwch rhianta corfforaethol rhanbarthol a chenedlaethol wedi’i chasglu ynghyd ag adborth gan blant sy’n derbyn gofal a rhai sy’n gadael gofal i ddod o hyd i chwe thema sydd ag ymrwymiadau wrth eu gwraidd wedi’u hategu gan gynllun gweithredu. Roedd datblygu'r Strategaeth Rhianta Corfforaethol yn gysylltiedig ag adolygiad o fforymau cyfranogiad presennol a phenodi Swyddog Cyfranogiad newydd i sicrhau bod plant sy'n derbyn gofal yn y sir yn cael dweud eu dweud.
Dywedodd y Cynghorydd Dave Mackie bod y Fforwm Gwasanaethau Plant wedi dod yn fwy addas i blant dros gyfnod ond roedd yn teimlo bod angen i blant sy’n derbyn gofal ac Aelodau etholedig ymgysylltu mwy. Eglurodd yr Uwch-reolwr y byddai'r adolygiad yn canfod y cyfleoedd gorau i ymgysylltu â phobl ifanc a bod y Cyngor â chyfrifoldeb dros rai a oedd yn gadael gofal tan oeddent yn 25 oed. O ran y broses asesu ar gyfer gofalwyr sy'n berthnasau, nodwyd bod terfynau amser heriol wedi’u gosod gan y llys ond bod un unigolyn o bob ochr i deulu’r plentyn yn cael eu hystyried i benderfynu pwy oedd fwyaf addas yn yr achosion hynny. Roedd lansio’r fenter Cyflogwr Cyfeillgar i Deuluoedd ar gyfer gweithwyr Cyngor Sir y Fflint wedi helpu i ennyn mwy o ddiddordeb gan ofalwyr maeth posibl.
Yn dilyn sylwadau gan y Cynghorydd Hilary McGuill, eglurwyd bod lwfansau maethu ar gael i ddiwallu anghenion y plant maeth a bod adborth o adolygiadau’n dangos bod gofalwyr maeth yn cyflawni eu dyletswydd i ofalu drwy helpu â chludo i ddigwyddiadau cymdeithasol/chwaraeon, ac ati.
Fel cyn-ofalwr maeth, teimlai'r Cynghorydd Kevin Hughes nad oedd digon o gefnogaeth ar gael iddo ar y pryd. Dywedodd yr Uwch-reolwr bod pwysigrwydd cefnogi pobl ifanc a’u gyrfaoedd yn cael ei gydnabod a bod y Gwasanaeth Dychwelyd ac Atal wedi'i ddatblygu i ategu'r trefniadau.
Gofynnodd y Cynghorydd Mike Allport faint oedd y cyfnod cyfartalog mewn gofal a dywedwyd wrtho ei fod yn amrywio, gan ddibynnu ar sawl ffactor. Roedd sawl llwybr i adael gofal ac roedd y fenter ‘Pan Wyf i'n Barod' yn rhoi'r cyfle i aros mewn gofal ar ôl troi'n 18 oed.
Gofynnodd y Cynghorydd Dave Wisinger am y camau i ddarparu ar gyfer lles cymdeithasol ac economaidd plant sy’n derbyn gofal. Eglurwyd bod llwybrau’n cynnwys ystod o gefnogaeth i helpu i baratoi'r person ifanc am y newid i fod yn oedolyn, fel arweiniad ar faterion ariannol ac ymgynghorwyr personol wedi'u neilltuo.
Mewn ymateb i sylwadau gan y Cadeirydd, rhoddwyd sicrwydd bod llety i rai a oedd yn gadael gofal ymysg y blaenoriaethau, ond pe bai'r unigolyn yn dewis gadael Sir y Fflint, byddent yn colli'r statws flaenoriaeth honno.
Ymatebodd y swyddogion i gwestiwn gan y Cynghorydd Mike Lowe ar ddarpariaethau ar gyfer plant anabl mewn gofal fel addasu eiddo a chymorth seibiant yn Arosfa.
Pan ofynnodd y Cynghorydd Rita Johnson yngl?n â meini prawf i ddewis mabwysiadwyr, eglurwyd bod nifer o ffactorau'n cael eu hystyried i ddod o hyd i'r rhai iawn.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r camau gweithredu arfaethedig i ddatblygu Strategaeth Rhianta Corfforaethol newydd.
Awdur yr adroddiad: Neil Ayling
Dyddiad cyhoeddi: 24/11/2017
Dyddiad y penderfyniad: 05/10/2017
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 05/10/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Dogfennau Atodol: