Manylion y penderfyniad
Forward Work Programme (Education & Youth)
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
The Committee is asked to consider, and amend
where necessary, the Forward Work Programme for the Education &
Youth Overview & Scrutiny Committee.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y Rhaglen Waith i’r Dyfodol gyfredol i’w hystyried.
Gofynnodd y Cynghorydd David Williams a ellid rhoi diweddariad yngl?n ag arian Ysgolion yr 21ain Ganrif. Cytunwyd y byddai’r adroddiad ar Drefniadaeth Ysgolion sydd i’w gyflwyno i gyfarfod y Pwyllgor ar 5 Hydref 2017 yn cynnwys y diweddaraf am Ysgolion yr 21ain Ganrif.
Mewn ymateb i’r pryderon a godwyd gan y Pwyllgor yngl?n â defnyddio cyfryngau cymdeithasol a diogelwch ar y rhyngrwyd, cytunwyd y câi adroddiad ar Ddefnyddio Cyfryngau Cymdeithasol a Diogelwch ar y Rhyngrwyd ei baratoi ar gyfer y cyfarfod o’r Pwyllgor sydd wedi’i drefnu ar gyfer 23 Tachwedd 2017.
Gan gyfeirio at yr adroddiad ar Ysgolion Iach a’r Rhaglen Cyn-ysgol a oedd i’w gyflwyno i gyfarfod y Pwyllgor ym mis Tachwedd, cynigiodd y Prif Swyddog Dros Dro gysylltu ag ysgolion gyda golwg ar wahodd cynrychiolydd i ddod i’r cyfarfod i roi mwy o ddealltwriaeth a manylion am y Rhaglen.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r Rhaglen Waith i’r Dyfodol drafft, a
(b) Awdurdodi’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Waith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, fel bydd yr angen yn codi.
Awdur yr adroddiad: Ceri Shotton
Dyddiad cyhoeddi: 03/04/2018
Dyddiad y penderfyniad: 28/07/2017
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 28/07/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid
Dogfennau Atodol: