Manylion y penderfyniad
Improvement Plan 2016/17 Outturn Report
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To enable Members to fulfil their scrutiny
role in relation to performance monitoring.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Swyddog yr adroddiad diweddariad i ystyried cynnydd ar gyfer cyflawni’r effeithiau yn y Cynllun Gwella 2016/17, gan ganolbwyntio ar y meysydd tan berfformiad sy’n berthnasol i’r Pwyllgor ar ddiwedd y flwyddyn.
Dywedodd y Swyddog Gweithredol Cyfathrebu a Busnes Corfforaethol bod cynnydd da ar gamau gweithredu a pherfformiad yn erbyn y targedau, gydag eglurhad ar yr unig faes coch ar ganran trosiant gweithwyr. Roedd y mwyafrif o risgiau a nodwyd yn ganolog neu’n fychan, a’r unig faes risg coch ar y raddfa oedd yr her ariannol.
Cododd y Cynghorydd Richard Jones fater ar gysondeb y graddfeydd canlyniad wrth gymharu’r ddau gam gweithredu. Eglurwyd bod y cam gweithredu cyntaf yn cynnwys Rheolau'r Weithdrefn Gontractau newydd a gyflwynwyd lle’r oedd buddion cymunedol yn cael eu cyflawni dros dymor hirach. Er bod cynnydd wedi’i wneud ar y Cyfamod y Lluoedd Arfog. Nid oedd y canlyniadau wedi cyflawni 100% ar y cam hwn. Hefyd amlygodd y Cynghorydd Jones nad oedd y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus ym Mwcle wedi'u nodi o fewn y Dangosydd Perfformiad Allweddol. Ar gais am sylwadau ar ganran trosiant gweithwyr, rhoddwyd diweddariad byr a bydd yn cael ei egluro ymhellach yn y diweddariad Gwybodaeth Gweithlu nesaf. Ar ganran dioddefwyr ailadroddus risg uchel o gamdriniaeth domestig a gyfeiriwyd at y Gynhadledd Asesiad Risg Amlasiantaeth Sir y Fflint, byddai swyddogion yn sefydlu a fyddai'r targed o 28 a osodwyd yn lleol neu'n genedlaethol, gan ei fod yn uwch na'r flwyddyn flaenorol.
PENDERFYNWYD:
Bod yr adroddiad canlyniad Cynllun Gwella 2016/17 yn cael ei dderbyn.
Awdur yr adroddiad: Robert Robins
Dyddiad cyhoeddi: 10/10/2017
Dyddiad y penderfyniad: 13/07/2017
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 13/07/2017 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Dogfennau Atodol: