Manylion y penderfyniad
Update on the Integrated Transport Unit Procurement Project
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To update on the outcome of the Integrated Transport Unit (ITU) tendering exercise for School and Social Care transport and the adoption of the new contracting arrangements in September 2017.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad oedd yn rhoi diweddariad ar y broses o gaffael cludiant ysgol ac yn nodi’r prif newidiadau yn y ddarpariaeth gludiant oedd i’w cyflwyno o fis Medi 2017 ymlaen.
Roedd cam cyntaf y broses gaffael wedi’i gwblhau gyda 47 o gyflenwyr wedi pasio’r cam cyn-gymhwyso. Roedd yr ail gam yn dechrau ar 11 Mehefin drwy roi gwybodaeth am y llwybrau cludo i’r holl gyflenwyr a fyddai yna’n cael eu gwahodd i brisio pob llwybr, ar sail cyfradd y filltir, ac i ddarparu cyfradd y filltir am bob categori cerbyd sydd ei angen i ddarparu’r gwasanaeth mewn ardal neilltuol. Byddai’r trefniadau caffael newydd yn creu’r arbedion sydd mewn golwg ar gyfer y gwasanaeth.
Gellir darparu cludiant drwy wasanaeth cludiant contract ysgol neu gyda’r gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus presennol a fyddai, ynghyd â’r math o gludiant, yn dibynnu ar ba mor gost-effeithiol ydynt. Mewn rhai achosion gallai un bws contract gludo gwahanol ddisgyblion i fwy nag un safle ysgol. Mae’r cludiant fel arfer i ac o arosfannau bws neu bwyntiau codi ar gyfer grwpiau o ddisgyblion, ac o ddrws i ddrws dim ond mewn amgylchiadau eithriadol. Byddai’r pellter mwyaf y byddai disgwyl i ddisgybl gerdded i ac o’r pwyntiau codi’n dibynnu ar oed, anghenion yr unigolyn a natur y llwybr y byddai disgwyl iddynt gerdded ar ei hyd. Roedd y pwyntiau codi a gollwng, a’r amser codi, yn cael eu hadolygu. Fodd bynnag, byddai’r polisi presennol yn cael ei ddilyn oni bai mewn amgylchiadau eithriadol.
Canmolodd y Cynghorydd Attridge y tîm a’u gwaith ar y prosiect, oedd yn enghraifft dda o weithio gyda phartneriaid busnes. Roedd hefyd meddai’n gwerthfawrogi’r contractwyr a fu’n rhan o’r broses. Cytunodd y Prif Weithredwr â sylwadau’r Cynghorydd Attridge gan ychwanegu fod hyn yn dystiolaeth o dimau’n gweithio gyda’i gilydd i reoli’r farchnad fasnachol yn well a chreu arbedion. Diolchodd i’r tîm hefyd am ganlyniad llwyddiannus y prosiect.
PENDERFYNWYD:
Nodi effaith debygol y broses o gaffael Cludiant Ysgolion fel y nodwyd yn yr adroddiad.
Awdur yr adroddiad: Steve Jones
Dyddiad cyhoeddi: 27/09/2017
Dyddiad y penderfyniad: 18/07/2017
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 18/07/2017 - Cabinet
Yn effeithiol o: 27/07/2017
Dogfennau Atodol: