Manylion y penderfyniad

Housing Rent Income

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To provide an operational update on rent collection and current arrear levels.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) y diweddariad gweithredol ar gasglu rhent tai ar gyfer 2021/22.  

 

Rhoddodd y Rheolwr Refeniw wybod bod cyfanswm yr ôl-ddyledion rhent ar gyfer tenantiaid presennol, ar wythnos 28 (hyd at ganol mis Hydref 2021) yn £2.40 miliwn, o’i chymharu â £2.35 miliwn ar yr un adeg yn 2020/21 a £2.40 miliwn ar yr un adeg yn 2019/20 cyn y pandemig.   Roedd y Gwasanaeth Incwm Rhent yn parhau i gefnogi tenantiaid a sicrhau bod ymyriadau’n cael eu darparu i denantiaid i atal cymryd camau cyfreithiol pellach ac i sicrhau fod tenantiaid yn talu eu taliadau.

 

Cafwyd cyflwyniad manwl gan y Rheolwr Refeniw yn trafod y meysydd canlynol:-

 

  • Casgliadau Rhent - Y sefyllfa ddiweddaraf (hyd at wythnos 35)
  • Rhagolygon Meincnodi Cenedlaethol ar gyfer 2021-22
  • Tueddiadau gyda galwadau gwasanaeth/ contractau
  • Y Sefyllfa Ddiweddaraf - Ôl-ddyledion wedi’u Bandio
  • Y Sefyllfa Ddiweddaraf - Tenantiaid ag Ôl-ddyledion
  • Adolygiad gronynnog ar ôl-ddyledion £5 mil +

 

Mewn ymateb i sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd David Wisinger o ran p’un ai dylai Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU fod yn gwneud mwy a’r effeithiau negyddol pellach y gallai’r pandemig ei gael, rhoddodd y Prif Weithredwr sicrwydd i’r Aelodau bod y Portffolio Tai wedi’i baratoi i helpu tenantiaid ac wedi bod yn gweithio ac yn addasu eu prosesau ers sawl blwyddyn.    Nid oedd yn bosibl rheoli rhai pethau ond roedd y Cyngor wedi darparu timau i helpu tenantiaid i roi cymorth i’w cadw yn eu tai ac i beidio â chael eu troi allan.   Cytunodd y gallai’r pandemig gael effeithiau negyddol pellach ond roedd eisiau rhoi sicrwydd i’r Pwyllgor y byddai’r Gwasanaeth Tai yn gwneud popeth o fewn eu gallu i helpu tenantiaid yn ystod y cyfnod anodd iawn hwn. 

 

Cytunodd y Rheolwr Refeniw â’r sylwadau a wnaed gan y Prif Weithredwr ac ychwanegodd fod achos busnes wedi’i wneud sawl mis yn ôl i gynyddu lefel yr adnoddau yn y cynllun busnes ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai.   Roedd hyn er mwyn rhoi cymorth ychwanegol gan fod y gwasanaeth yn gallu gweld bod mwy o heriau i ddod a byddai angen rhoi adnoddau ar waith i ddarparu’r cymorth hwnnw.  

 

Gofynnodd y Cynghorydd Brian Lloyd os byddai’r ôl-ddyledion arwyddocaol, fel y nodir yn yr adroddiad, yn gallu cael eu hadfer neu os byddai’n rhaid eu dileu.   Eglurodd y Rheolwr Refeniw nad oedd ôl-ddyledion mawr yn cael eu dileu’n awtomatig.   Os oedd angen troi tenantiaid allan a bod cyfleoedd ar gael i hel yr ôl-ddyledion rhent hynny, yna byddai hynny’n digwydd.   Roedd yn heriol, ac os byddai’r holl brosesau wedi’u cymryd heb unrhyw lwyddiant yna bu’n rhaid dileu’r ddyled.

 

Rhoddodd yr Aelod Cabinet Tai sicrwydd i aelodau fod popeth yn cael ei wneud i osgoi troi tenantiaid allan.   Pe na bai’r Cyngor wedi buddsoddi yn y feddalwedd ‘Rent Sense’ Mobysoft, roedd yn teimlo y byddai’r sefyllfa wedi bod yn waeth.   Roedd yn teimlo y byddai’r newidiadau a wnaed yn y portffolio Tai yn rhoi’r gefnogaeth hynny i denantiaid. 

 

Bu i’r Cynghorydd Dennis Hutchinson longyfarch y Rheolwr Refeniw a’r tîm am wneud popeth o fewn eu gallu dan amgylchiadau anodd.   Ychwanegodd, pan fo tenantiaid mewn ôl-ddyledion o £5 mil roedd yn anodd iawn i fynd yn ôl ar y trywydd iawn ond roedd eisiau diolch i’r tîm am eu holl waith caled.

 

Bu i’r Cadeirydd longyfarch y tîm.   Dywedodd fod yr arweiniad mewn amser o 6 mis i droi tenantiaid allan yn anodd iawn ond roedd yn gwerthfawrogi pam fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi’r mesurau hyn ar waith.   Roedd yna gynnydd hefyd pan ddychwelodd plant yn ôl i’r ysgol, oherwydd costau gwisg ysgol ac yn ystod cyfnod y Nadolig a’r costau byw cyffredinol. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Ron Davies bod y diweddariad wedi’i gyflwyno’n dda iawn ac roedd yn teimlo y dylid cael gwared â’r Credyd Cynhwysol er mwyn cefnogi tenantiaid.  

 

Cafodd yr argymhelliad, fel y nodir yn yr adroddiad, ei gynnig gan y Cynghorydd Brian Lloyd a’i eilio gan y Cynghorydd Mared Eastwood.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y sefyllfa ariannol ddiweddaraf ar gyfer casgliadau rhent ar gyfer 2021/22, fel y nodir yn yr adroddiad a’r cyflwyniad, yn cael ei nodi.

Awdur yr adroddiad: Lynne McAlpine

Dyddiad cyhoeddi: 22/03/2022

Dyddiad y penderfyniad: 08/12/2021

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 08/12/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau

Accompanying Documents: