Manylion y penderfyniad
Administration and Communications update
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd
Statws y Penderfyniad: For Determination
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Penderfyniadau:
Aeth Mrs K Williams â’r Pwyllgor drwy’r adroddiad hwn, a thynnodd sylw at rai meysydd, gan gynnwys rhai newydd ers adeg ysgrifennu’r adroddiad:
- Strategaeth Gyfathrebu (Tasg A7 o'r Cynllun Busnes) – Yn dilyn ymchwil o amgylch gwasanaeth teleffoni i gyfeirio galwadau sy'n dod i mewn yn well gan aelodau, ac i fonitro’r galwadau, cyflwynwyd achos busnes i'r Bwrdd Strategaeth Ddigidol a’i gymeradwyo. Mae angen penderfynu ar lefel y gwaith a'r costau o hyd ac felly nid yw'r amserlenni wedi'u cytuno eto.
- Diweddariad McCloud – dim ond ar 18 Mehefin y cafwyd canllawiau statudol a oedd yn darparu’r opsiwn o estyniad hyd at 31 Awst 2026. Fodd bynnag, nid oes unrhyw fwriad i newid amserlen prosiect y Gronfa ar hyn o bryd.
- Dangosfwrdd Pensiynau Cenedlaethol - argymhellwyd bod y Pwyllgor yn dirprwyo penderfyniadau allweddol i'r Gr?p Rheoli Rhaglen ar yr amod bod y Rheolwr Gweinyddu Pensiynau a Phennaeth Cronfa Bensiynau Clwyd yn bresennol i'r penderfyniadau hynny gael eu gwneud.
- Adolygu’r Strategaeth Weinyddol a Pholisi Dewisol yr Awdurdod Gweinyddu.
Nododd Mr Hibbert fod yna gyflogwr sengl gydag un gweithiwr sydd wedi bod yn cael trafferth darparu'r data gofynnol mewn modd amserol, a gofynnodd sut mae hyn yn cael ei liniaru. Eglurodd Mrs K Williams fod hyn yn cael ei fonitro ac, os oes angen, gellir ei uwchgyfeirio gan ddefnyddio'r broses uwchgyfeirio cyflogwyr newydd. Mae'r tîm hefyd yn cysylltu â'r cyflogwr i helpu i liniaru risgiau posibl, gan gynnwys cyflwyno Tîm Cyfathrebu a Chyflogwyr er mwyn darparu cefnogaeth a helpu i ddatrys problemau.
Gofynnodd y Cynghorydd Wedlake sut mae cynnydd y Gronfa ar y prosiect Dangosfwrdd yn cymharu â chynnydd cronfeydd eraill, ac a fydd datblygiad pellach. Nododd Mrs K Williams fod y Gronfa yn parhau i wneud cynnydd da, bod gwaith glanhau data ar y gweill a bod darpariaeth meddalwedd yn cael ei harchwilio. Y gobaith yw y bydd hyn yn gallu symud ymlaen o ystyried y gwaith dirprwyo sydd wedi'i argymell i'w gymeradwyo gan y Pwyllgor. Mae'r Gronfa hefyd wedi gwirfoddoli i fod yn safle prawf ar gyfer y darparwr meddalwedd. Fodd bynnag, nid oes unrhyw Ddangosfyrddau wedi'u cymeradwyo eto nac ar gael i'w gweithredu.
PENDERFYNWYD:
a) Bod y Pwyllgor yn ystyried y diweddariad ac yn rhoi sylwadau;
b) Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r diwygiadau arfaethedig i'r Strategaeth Weinyddu a Datganiad o Bolisïau Dewisol yr Awdurdod Gweinyddu, ac yn dirprwyo unrhyw fân newidiadau terfynol; a
c) Bod y Pwyllgor yn dirprwyo penderfyniadau allweddol yn ymwneud â gweithredu gofynion y Dangosfwrdd Pensiynau Cenedlaethol i'r Gr?p Rheoli Prosiect.
Awdur yr adroddiad: Janet Kelly
Dyddiad cyhoeddi: 21/03/2025
Dyddiad y penderfyniad: 19/06/2024
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 19/06/2024 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd
Dogfennau Atodol:
- Administration and Communications update
PDF 180 KB
- Enc. 1 for Administration and Communications update
PDF 110 KB
- Enc. 2 for Administration and Communications update
PDF 404 KB
- Enc. 3 for Administration and Communications update
PDF 2 MB
- Enc. 4 for Administration and Communications update
PDF 95 KB
- Enc. 5 for Administration and Communications update
PDF 126 KB
- Enc. 6 for Administration and Communications update
PDF 90 KB
- Enc. 7 for Administration and Communications update
PDF 170 KB
- Enc. 8 for Administration and Communications update
PDF 221 KB
- Enc. 9 for Administration and Communications update
PDF 103 KB
- Enc. 10 for Administration and Communications update
PDF 207 KB