Manylion y penderfyniad

Governance & Audit Committee Self-Assessment - Action Plan - Mid Year Review

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: Oes

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw

Diben:

Cyflwyno cynllun gweithredu manwl i’r Pwyllgor i gefnogi canlyniadau hunanasesiad y Pwyllgor. Bydd hefyd yn ffurfio'r sail ar gyfer darparu unrhyw hyfforddiant pellach sydd ei angen ar y Pwyllgor.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg adroddiad (eitem rhif 10 ar y rhaglen) gyda chynllun gweithredu manwl i ategu canlyniadau hunanasesiad y Pwyllgor.

 

Wrth ymateb i sylwadau am yr Adroddiad Blynyddol / Atebolrwydd, dywedodd Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg byddai cyfarfodydd gydag Arweinydd newydd y Cyngor a’r Dirprwy Arweinwyr yn cael eu hadfer.

 

Mewn perthynas â rôl y Pwyllgor, awgrymwyd y gallai’r cynllun gweithredu gynnwys cyfeiriad penodol at safbwynt Archwilio Cymru yngl?n â’r Pwyllgor yn ystyried y tymor hwy parthed cynaliadwyedd ariannol.  Byddai swyddogion hefyd yn sicrhau y byddai aelodau cyfetholedig y Pwyllgor yn cael eu gwahodd i weithdai ar y gyllideb a drefnir yn dilyn derbyn Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol.

 

Tra adroddid am gynnydd y Rhaglen Drawsnewid wrth Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, cytunwyd y trefnid adroddiad lefel uchel ar gynllunio ariannol ar gyfer yr hirdymor ar y rhaglen waith er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor hwn bob chwe mis.

 

Ar y sail honno, cefnogwyd yr argymhelliad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Wedi ystyried y cynllun gweithredu, bod y Pwyllgor yn cefnogi’r canlynol:

 

·         Cyfarfodydd rheolaidd gydag Arweinydd a Dirprwy Arweinwyr y Cyngor

·         Cynnwys cyfeiriad penodol yn y cynllun gweithredu at y Pwyllgor yn ystyried y tymor hwy parthed cynaliadwyedd ariannol

·         Adroddiad bob chwe mis i’w drefnu ar y Rhaglen Drawsnewid.

Awdur yr adroddiad: Lisa Brownbill

Dyddiad cyhoeddi: 31/01/2025

Dyddiad y penderfyniad: 25/11/2024

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 25/11/2024 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

Dogfennau Atodol: