Manylion y penderfyniad

Statement of Accounts 2023/24

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Oes

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw

Diben:

Cyflwyno fersiwn derfynol wedi’i harchwilio o Ddatganiad Cyfrifon 2023/24 i gael eu cymeradwyo.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad (eitem rhif 4 ar y rhaglen) i geisio cymeradwyaeth i fersiwn archwiliedig terfynol Datganiad Cyfrifon 2023/24.  Diolchodd i’r Rheolwr Cyllid Strategol a’i dîm am eu gwaith ar hyn, ynghyd â chydweithwyr yn Archwilio Cymru.  Amlygwyd mater cyfreithiol newydd yn ymwneud â sefydliad llywodraeth leol yr oedd y Cyngor yn un o’i aelodau.  Rhoddwyd gwybod i’r Pwyllgor am eiriad ychwanegol am ddyled ddigwyddiadol i’w gynnwys yn y cyfrifon i adlewyrchu’r risg ar y cam hwn.  Nodwyd y byddai briff ar y canlyniad yn cael ei ddarparu maes o law.

 

Wrth grynhoi’r adroddiad gan Archwilio Cymru, diolchodd Mike Whiteley i aelodau’r tîm Cyllid am eu cefnogaeth yn ystod yr archwiliad.

 

Ar y sail honno, cefnogwyd yr argymhellion.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi adroddiad Archwilio Cymru ‘Archwiliad o’r Datganiadau Ariannol 2023/24 – Cyngor Sir y Fflint’;

 

(b)       Cymeradwyo fersiwn terfynol Datganiad Cyfrifon 2023/24, ar ôl ystyried adroddiad Archwilio Cymru; a

 

(c)       Chymeradwyo’r Llythyr Sylwadau.

Awdur yr adroddiad: Chris Taylor

Dyddiad cyhoeddi: 31/01/2025

Dyddiad y penderfyniad: 25/11/2024

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 25/11/2024 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

Dogfennau Atodol: