Manylion y penderfyniad

Public Services Ombudsman for Wales Annual Letter 2023-24 and half-year complaints performance 2024-25

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: Oes

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw

Diben:

Rhannu Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2023-24 ar gyfer Cyngor Sir y Fflint a throsolwg o’r cwynion a dderbyniwyd gan bob portffolio o’r Cyngor rhwng 1 Ebrill 2024 – 30 Medi 2024.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd Prif Swyddog (Llywodraethu) a Rheolwr Gwasanaeth Cyswllt â Chwsmeriaid

adroddiad (eitem rhif 8 ar y rhaglen) ar Lythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru sy’n crynhoi perfformiad y Cyngor ar y cwynion yr ymchwiliwyd iddynt yn ystod 2023-24.  Yr oedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys trosolwg o’r cwynion a gafwyd fesul portffolio yn ystod hanner cyntaf 2024-25.

 

Yr oedd hwn yn adroddiad cadarnhaol lle croesewid olrhain camau gweithredu yn arbennig.  Nododd swyddogion yr awgrym i adroddiadau yn y dyfodol gynnwys mwy o fanylion yngl?n â natur y cwynion yn Atodiad 1.

 

Cefnogwyd yr argymhellion ynghyd â chynnig ychwanegol i groesawu’r gwersi a ddysgwyd.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn nodi perfformiad blynyddol gwell y Cyngor mewn perthynas â’r cwynion a wnaed i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn ystod 2023-24;

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn nodi perfformiad hanner blwyddyn (2024-25) y Cyngor o ran cwynion a wnaed i wasanaethau yn unol â’r Polisi Pryderon a Chwynion;

 

(c)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi'r blaenoriaethau a amlinellwyd ym mharagraff 1.25; a

 

(d)       Bod y Pwyllgor yn nodi ac yn croesawu’r gwersi a ddysgwyd.

Awdur yr adroddiad: Rebecca Jones

Dyddiad cyhoeddi: 31/01/2025

Dyddiad y penderfyniad: 25/11/2024

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 25/11/2024 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

Dogfennau Atodol: