Manylion y penderfyniad

Flintshire Youth Justice Service HMIP Inspection

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw

Diben:

Cyflwyno’r adroddiad yn dilyn Arolwg diweddar y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr, Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Sir y Fflint a Sorted Sir y Fflint, yr adroddiad (eitem rhif 5 ar y rhaglen), gan nodi cefndir ei sefydliad yn 2000, y prif nodau a’r rhwymedigaeth statudol dan Adran 40 Deddf Trosedd ac Anrhefn 1998.  Roedd Arolygiaeth Prawf EF wedi cynnal arolygiad o’r gwasanaeth, ac roedd eu canfyddiadau a’u hargymhellion wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

 

Awgrymwyd y dylid ysgrifennu llythyr at Brif Weithredwr y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn amlinellu pryder y Pwyllgor am yr her sy’n wynebu’r gwasanaeth yn sgil yr oedi o ran ei hysbysu am y Grant Cyfiawnder Ieuenctid.  Cynigiwyd ac eiliwyd hyn fel argymhelliad ychwanegol i’r rhai a restrwyd yn yr adroddiad.

 

Awgrymwyd hefyd y dylid ysgrifennu llythyr at James Warr, Uwch Reolwr Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Sir y Fflint a’i dîm i ddiolch iddynt am ganfyddiadau cadarnhaol Arolygiad Arolygiaeth Prawf EF, a amlinellir yn yr adroddiad.  Cynigiwyd ac eiliwyd hyn fel argymhelliad ychwanegol i’r rhai a restrwyd yn yr adroddiad.

 

Cefnogwyd argymhellion yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)        Y byddai’r Aelodau’n nodi argymhellion Adroddiad Arolygiad Arolygaeth Prawf EF, a’u bod wedi’u sicrhau o ansawdd darpariaeth Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Sir y Fflint;

 

(b)        Y byddai’r Aelodau’n cefnogi dull cadarn o geisio’r gefnogaeth a nodir, sydd ar hyn o bryd yn cael ei hystyried yn annigonol gan bartneriaid allanol;

 

(c)        Y byddai llythyr yn cael ei ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn amlinellu pryder y Pwyllgor am yr her sy’n wynebu’r gwasanaeth yn sgil yr oedi o ran eu hysbysu am y Grant Cyfiawnder Ieuenctid; ac

 

(d)        Y byddai llythyr yn cael ei ysgrifennu at Uwch Reolwr Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Sir y Fflint a’i dîm i ddiolch iddynt am ganfyddiadau cadarnhaol Arolygiad Arolygiaeth Prawf EF, a amlinellir yn yr adroddiad.

 

 

Awdur yr adroddiad: Rachel Padfield

Dyddiad cyhoeddi: 04/11/2024

Dyddiad y penderfyniad: 09/09/2024

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 09/09/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant

Dogfennau Atodol: