Manylion y penderfyniad
Pooled Budget Agreement for Care Home Accommodation for Older People
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To provide an update on the work of the North Wales Pooled Budget Group to meet the legal and policy requirements of Welsh Governments for pooled budgets between local government and the National Health Service.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd yr Uwch Reolwr – Diogelu a Chomisiynu yr adroddiad a oedd i geisio cymeradwyaeth yn ymwneud â’r trefniadau partneriaeth rhwng Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar draws rhanbarthau a phwysigrwydd cydweithio er budd y rhai hynny sy’n derbyn gwasanaethau. Eglurodd fod Llywodraeth Cymru yn gofyn i Iechyd ac Awdurdodau Lleol gydweithio’n ariannol yn ogystal â’r ffaith ei fod yn cael ei yrru gan y gwasanaeth. Yng Ngogledd Cymru fe fabwysiadwyd y ddeddfwriaeth ac ym mlwyddyn ariannol 2019/20 cytunwyd ar gyllideb gyfun ranbarthol unigol ar gyfer y 6 Awdurdod Lleol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Wrth ymateb i’r Cynghorydd Mackie eglurodd yr Uwch Reolwr – Diogelu a Chomisiynu fod y ddeddfwriaeth wedi dod i fodolaeth yn 2016 ond fod cyllidebau cyfun yn strwythurau cymhleth a bod angen i bob un o’r 7 partner ddod i gytundeb yngl?n â sut y gellid ei gyflawni ac roedd hynny wedi cymryd amser ac o ganlyniad fe gymrodd tan fis Gorffennaf 2019 iddo fod yn cydymffurfio, ond cafodd ei ôl-ddyddio i’r flwyddyn ariannol newydd yn Ebrill 2019 fel rhan o’r cynnig gwreiddiol.
Eglurodd yr Uwch Reolwr – Diogelu a Chomisiynu wrth aelodau fod cyllideb gyfun yn rhannu risgiau ariannol a gan fod yna angen i gydnabod dyhead Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithio’n fwy agos gyda’r Bwrdd Iechyd, cytunwyd fod yr holl Awdurdodau Lleol yng Ngogledd Cymru a’r Bwrdd Iechyd yn rhoi’r gyllideb y byddent yn ei gwario ar ofal ac iechyd pobl h?n o fewn y farchnad gofal cartref yn y gyllideb gyfun. Dywedodd fod hyn yn bodloni gofyniad deddfwriaeth statudol a bod Llywodraeth Cymru’n hapus gyda’r trefniant. Dywedodd nad yw pawb yn rhoi’r un swm i mewn ond roedd y swm a roddir i mewn yr un fath â’r swm a ddaw allan. Yn 2022/23 rhoddodd Sir y Fflint £10.5 miliwn i mewn. Dywedodd fod yna gost weinyddol a rannwyd o £20,000 y flwyddyn, a dalwyd i Sir Ddinbych am gynnal y gyllideb ar ran y 6 awdurdod a’r Bwrdd Iechyd, ac roedd yn talu am y broses o adrodd yn fisol i Lywodraeth Cymru ac archwilio a chostau gweinyddol.
Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) nad oedd yn ymwybodol o fwriadau’r Gweision Sifil a luniodd y rheoliadau ond y dewis arall fyddai cyllideb gyfun gyflawn lle byddent i gyd yn rhoi’r hyn maent yn ei wario ar gartrefi gofal ar draws y rhanbarth i mewn gyda hynny wedyn yn cael ei gyfuno mewn un gyllideb fawr, ond roedd gormod o risgiau’n perthyn i’r dull hwnnw.
Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Hilary McGuill a’u heilio gan y Cynghorydd Gladys Healey.
PENDERFYNWYD:
(a) Cefnogi’r cynnydd a wnaed yn rhanbarthol o ran bodloni gofynion Rhan 9 Deddf 2014 sy’n cynnwys gofyniad cyfreithiol i sefydlu cronfa gyfun ranbarthol ar gyfer llety cartref gofal i bobl h?n; a
(b) Bod yr aelodau’n cefnogi’r Cyngor i ymrwymo i gytundeb cyfreithiol rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a'r chwe awdurdod lleol ar draws Gogledd Cymru, a fyddai’n rheoleiddio gweithrediad a threfniadau llywodraethu mewn perthynas â’r gronfa gyfun hyd nes y bydd angen terfynu’r cytundeb.
Awdur yr adroddiad: Abigail Rawlinson
Dyddiad cyhoeddi: 02/10/2024
Dyddiad y penderfyniad: 29/02/2024
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 29/02/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Dogfennau Atodol: