Manylion y penderfyniad

Third Sector Grant Funding

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw

Diben:

Cyflwyno diweddariad ar gyllid trydydd sector; Y Gist Gymunedol a Chyllid Strategol. Bydd hyn yn cynnwys diweddariad ar gynnydd ar weithredu'r camau gweithredu sy'n deillio o'r adolygiad diwethaf o gyllid ac argymhellion ar gyfer y camau nesaf.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Rheolwr Corfforaethol - Rhaglen Gyfalaf ac Asedau ddiweddariad ar gyllid y trydydd sector; Y Gist Gymunedol a Chyllid Strategol, a oedd yn cynnwys cynnydd ar roi camau gweithredu o'r adolygiad diwethaf ar waith, ac argymhellion ar gyfer y camau nesaf.

 

Cytunodd swyddogion i geisio eglurder ynghylch cyllid y Gist Gymunedol, er mwyn sicrhau cysondeb rhwng y swm a nodir yn yr adroddiad a’r swm ar wefan y Cyngor.  Ar y sail honno, cefnogwyd yr argymhellion yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a) Bod y Pwyllgor yn nodi'r wybodaeth a ddarparwyd ar gyllid y trydydd sector, ynghyd â'r cynnydd a wnaed wrth weithredu adolygiad blaenorol;

 

(b) Bod y Pwyllgor yn nodi argymhelliad o adolygiad pellach o Gyllid Strategol i fynd i'r afael â'r materion a nodwyd, gan gynnwys y rhai a amlygwyd gan yr Archwiliad Mewnol diweddar. Yn ogystal, bod adroddiadau pellach yn cael eu dwyn yn ôl i'r Pwyllgor wrth i'r gwaith fynd rhagddo er mwyn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf; a

 

(c) Bod y Pwyllgor yn cefnogi parhad cynllun cyllid grant y Gist Gymunedol, yn amodol ar adolygiad sydd i'w gynnal yn 2024/25, i gynnwys y cylch gorchwyl.

Awdur yr adroddiad: Nicola McCann

Dyddiad cyhoeddi: 21/10/2024

Dyddiad y penderfyniad: 19/07/2024

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 19/07/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  • Restricted enclosure  View reasons restricted
  •