Manylion y penderfyniad
Employment and Workforce End of Year Update
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
I gyflwyno ystadegau gweithlu diwedd blwyddyn a’u dadansoddiad.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd Reolwr Corfforaethol, Pobl a Datblygu Sefydliadol adroddiad yn cynnwys data am y gweithlu a’r dadansoddiad o’r sefyllfa ar ddiwedd blwyddyn 2023/24.
Yn ystod y drafodaeth, eglurodd y Rheolwr Corfforaethol y gyfradd absenoldebau a chytunodd i ddarparu ymateb dilynol o ran a yw’r cyfrifiadau a’r cyfraddau cyfwerth â llawn amser yn gysylltiedig â nifer y gweithwyr neu nifer y swyddi sydd ar gael. Bydd hefyd yn darparu gwybodaeth am y cyfrifiad a ddefnyddiwyd i nodi’r dyddiau a gollwyd ac yn cysylltu â’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol i gasglu data’r sefydliad ar nifer y dyddiau a gollwyd yn sgil swyddi heb eu llenwi ar draws y portffolios i’w rhannu gyda’r Pwyllgor. Mewn ymateb i’r sylwadau, cytunodd i gynnwys esboniad mewn adroddiadau pan nad yw targedau presenoldeb a gwariant ar staff asiantaeth wedi’u cyrraedd, ynghyd â chyfeiriad at y broses o werthuso perfformiad.
Cafodd yr argymhelliad yn yr adroddiad ei gefnogi.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi Adroddiad Diwedd Blwyddyn 2023/24 ar y Gweithlu.
Awdur yr adroddiad: Andrew Adams
Dyddiad cyhoeddi: 21/10/2024
Dyddiad y penderfyniad: 13/06/2024
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 13/06/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Dogfennau Atodol: