Manylion y penderfyniad

Forward Work Programme and Action Tracking

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw

Diben:

Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Rhaglen Gwaith gyfredol i’w hystyried, a oedd yn cynnwys diweddariad ar gamau gweithredu sy’n weddill. 

Yn dilyn cwestiynau ynghylch yr adolygiad ar safle’r garej, cytunwyd y byddai adroddiad diweddaru ar yr adolygiad ar safle’r garej ynghyd â diweddariad ar y matrics parcio ceir yn cael ei ychwanegu ar y Rhaglen Waith.

Cytunwyd hefyd bod copi o ganlyniad yr adolygiad ar safle’r garej yn ôl ward yn cael ei ddosbarthu at holl Aelodau’r Cyngor.

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cefnogi.

PENDERFYNWYD:

(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

 

(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Waith rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; ac

 

(c) Y byddai’r Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed ar y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.

 

 

Awdur yr adroddiad: Ceri Shotton

Dyddiad cyhoeddi: 13/09/2024

Dyddiad y penderfyniad: 17/07/2024

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 17/07/2024 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Tai

Dogfennau Atodol: