Manylion y penderfyniad

Enforcement of Closure Notices and Closure Orders under The Anti-Social Behaviour, Crime and Policing Act 2014

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Oes

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes

Diben:

Rhoi pwerau i’r Cyngor gyflwyno Hysbysiadau a Gorchmynion Cau dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell yr adroddiad a oedd yn gofyn am ddirprwyo awdurdod i’r Prif Swyddog Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi i arfer pwerau’r Cyngor mewn perthynas â Hysbysiadau a Gorchmynion Cau, o dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014.

 

Byddai modd cyflwyno Hysbysiad Cau am hyd at 48 awr, pe bai’r Cyngor neu’r Heddlu yn fodlon ar sail resymol:-

 

  • bod y defnydd o eiddo penodol wedi arwain at, neu (os na chyflwynir yr hysbysiad) yn debygol o arwain yn fuan at niwsans i aelodau o’r cyhoedd; neu
  • y bu, neu (os na chyflwynir yr hysbysiad) ei bod yn debygol y bydd anhrefn yn fuan ger yr eiddo dan sylw, yn gysylltiedig â defnyddio’r safle hwnnw, a bod angen yr hysbysiad er mwyn atal y niwsans neu’r anrhefn rhag parhau neu ddigwydd eto.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwarchod Cymunedau a Busnes fod y p?er i gyflwyno Hysbysiadau Cau a Gorchmynion Cau ar gyfer eiddo lle mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn arf gorfodi amgen ac effeithiol, y gall yr awdurdod ei ddefnyddio i fynd i’r afael ag ymddygiad o’r fath. Gellid ei ddefnyddio mewn perthynas â siopau sy'n gwerthu nwyddau anghyfreithlon fel tybaco, fêps neu alcohol, safleoedd trwyddedig sy'n methu â mynd i'r afael ag ymddygiad gwael gan eu cwsmeriaid ac unrhyw safle arall lle mae ymddygiad gwrthgymdeithasol parhaus.

 

Cafodd yr argymhelliad ei ystyried a’i gymeradwyo gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Economi ar 16 Gorffennaf 2024. Yn y Pwyllgor, gofynnodd yr Aelodau nifer o gwestiynau a rhoddwyd sylw iddynt yn yr adroddiad.  

 

PENDERFYNWYD:

 

Dirprwyo awdurdod i’r Prif Swyddog Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi ar ran Cyngor Sir y Fflint i gyflwyno Hysbysiadau Cau o dan adran 76 Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014, a rhoi awdurdod i swyddogion i orfodi hysbysiadau cau, yn unol â Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014.

Awdur yr adroddiad: Sian Jones (Environment)

Dyddiad cyhoeddi: 22/10/2024

Dyddiad y penderfyniad: 23/07/2024

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 23/07/2024 - Cabinet

Yn effeithiol o: 01/08/2024

Dogfennau Atodol: