Manylion y penderfyniad

Revenue budget monitoring 2024/25 (Interim)

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Oes

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes

Diben:

Mae’r adroddiad hwn yn nodi’r risgiau allweddol a’r problemau sy’n hysbys o ran sefyllfa derfynol y gyllideb refeniw ar gyfer 2024/25 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn rhoi’r trosolwg cyntaf o sefyllfa fonitro’r gyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25. Yn ystod y cyfnod cynnar hwn, dim ond y risgiau ariannol oedd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

 

Byddai'r gallu i liniaru risgiau yn ystod y flwyddyn ariannol unwaith eto yn canolbwyntio ar adolygu a herio gwariant gohiriedig, gan wneud y mwyaf o ffrydiau incwm a chyllid grant. Fel yr adroddwyd yn flaenorol, cyflwynwyd moratoriwm ar wariant heb ei ymrwymo dan gontract yn 2023/24, ochr yn ochr â phroses rheoli swyddi gwag, er mwyn ceisio lleihau gwariant yn ystod y flwyddyn a ‘lleddfu’r’ gorwariant a ragwelwyd, a byddai hynny’n parhau yn 2024/25.

 

Cafodd y Cronfeydd Wrth Gefn Sylfaenol eu cynyddu i £8.985 miliwn, gan ddefnyddio’r balans o £3.216 miliwn oedd yn weddill o Gronfa Wrth Gefn Caledi COVID-19 2023/24. Yn ogystal, roedd swm o £3 miliwn ar gael, a gymeradwywyd fel Cronfa Wrth Gefn “Risg i’r Gyllideb”.

 

Byddai adroddiad monitro manwl a chyflawn yn cael ei ddarparu ym mis Medi, a fyddai’n cynnwys rhagamcan o’r sefyllfa ariannol gyffredinol ar gyfer 2024/25.

 

Dywedodd y Cynghorydd Johnson nad oedd unrhyw adborth i’w rannu gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, a fu’n ystyried yr adroddiad ar 19 Gorffennaf 2024.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Cabinet yn nodi’r adroddiad a’r risgiau ariannol posibl o ran cyllideb 2024/25; a

 

(b)       Bod y Cabinet yn nodi’r dyraniadau o £0.200 miliwn o’r Gronfa Wrth Gefn At Raid ar gyfer Cambrian Aquatics a £0.277 miliwn ar gyfer darpariaeth Prydau Ysgol am Ddim yn ystod y gwyliau – cyfeirir at hyn ym mharagraff 1.14.

Awdur yr adroddiad: Dave Ledsham

Dyddiad cyhoeddi: 22/10/2024

Dyddiad y penderfyniad: 23/07/2024

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 23/07/2024 - Cabinet

Yn effeithiol o: 01/08/2024

Dogfennau Atodol: