Manylion y penderfyniad

The Council’s Transition to a Restricted Capacity Residual Waste Collection Model

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Oes

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes

Diben:

Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet am ganlyniad y gwaith modelu gwastraff ac ailgylchu gan WRAP Cymru gyda’r bwriad o wneud y mwyaf o berfformiad ailgylchu.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Cynghorydd Dave Hughes yr adroddiad a oedd yn amlinellu'r gwaith modelu a wnaed ac yn cyflwyno'r model casglu arfaethedig i'w fabwysiadu gan y Cyngor er mwyn cyrraedd y targed statudol o 70%.

 

O 2024/2025, roedd y targed statudol ar gyfer faint o wastraff sy’n cael ei baratoi i’w ailddefnyddio, ei ailgylchu a’i gompostio wedi cynyddu i 70%, ar ôl gosod targed o 64% yn y blynyddoedd blaenorol fel rhan o Strategaeth “Mwy nag Ailgylchu” Llywodraeth Cymru (LlC). Fodd bynnag, fel Cyngor, ni lwyddodd Sir y Fflint i gyrraedd y targed statudol blaenorol o 64% yn unrhyw un o’r pedair blynedd cynt a, heb newid sylweddol yn y gwasanaeth, ni fyddai’n cyrraedd y targed o 70% sy’n ofynnol erbyn 2025. Gallai hyn arwain at ragor o gosbau ariannol sylweddol gan Lywodraeth Cymru, yr oedd disgwyl iddynt eisoes fod yn uwch nag £1 miliwn ar gyfer 2021/22 a 2022/23.

 

Yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus ddechrau 2024, ac ar ôl i’r Cyngor fabwysiadu’r Strategaeth Adnoddau a Gwastraff ym mis Mawrth 2024, bu i’r Cabinet gymeradwyo argymhelliad i ystyried adroddiad pellach ym mis Mehefin 2024 i amlinellu gwaith y Cyngor i drosglwyddo i fodel casglu gwastraff gweddilliol cyfyngedig, yr ymrwymwyd iddo ym Mlaenoriaeth Dau yn y Strategaeth a chafodd ei gydnabod fel dull effeithiol o leihau gwastraff gweddilliol a chasglu cymaint â phosibl o ddeunyddiau ailgylchu.

 

Er mwyn cefnogi hyn, bu i’r Cyngor ymgysylltu â WRAP Cymru, Partneriaethau Lleol a’u hymgynghorwyr, WPS a CRS, i gynnal ymarfer modelu i efelychu gwahanol ddulliau o gasglu gwastraff gweddilliol at ddibenion pennu’r model gorau posibl ar gyfer:

  1. gwneud y mwyaf o botensial ailgylchu a gwella perfformiad.
  2. lleihau’r effaith ar yr amgylchedd drwy leihau allyriadau nwyon t? gwydr.
  3. lleihau costau gweithredu.

 

Nododd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) ganlyniadau’r gwaith modelu a dywedodd fod yr ymarfer modelu wedi dangos mai Dewis 2a (bin du 180 litr ar olwynion a gesglir bob 4 wythnos - wythnos waith 5 diwrnod (capasiti o 45 litr bob wythnos)) a gyflawnodd y cynnydd mwyaf o ran perfformiad, sef 5.9 pwynt canran, yn erbyn y Llinell Sylfaen Uwch. Arweiniodd y cyfyngiad mwyaf ar y capasiti gweddilliol wythnosol oedd ar gael at y dargyfeiriad uchaf o ran ailgylchu bwyd a deunyddiau sych o’r ffrwd weddilliol, ac roedd amlder y casgliadau bob 4 wythnos yn sicrhau casglu’r swm mwyaf posibl o ddeunyddiau ailgylchu.

 

Dywedodd y Prif Swyddog hefyd nad oedd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Economi yn cefnogi’r cynigion a nodwyd i’w cymeradwyo gan y Cabinet.  

 

Cynigiodd yr Arweinydd ddiwygio’r argymhelliad y dylid casglu gwastraff gweddilliol yn llai aml, unwaith bob tair wythnos, a chadw’r bin du 180 litr ar olwynion.   Ategwyd hyn gan y Cynghorydd Hughes.

 

Dywedodd y Cynghorydd Healey, er bod y model bob pedair wythnos yn darparu’r arbedion mwyaf, yn lleihau allyriadau ac yn cynnig y cyfle gorau i gyrraedd y targedau statudol cynyddol a osodwyd gan LlC, roedd yn cefnogi’r cynigion i newid i gasgliad bob tair wythnos a dywedodd fod y canfyddiadau a nodwyd yn yr adroddiad, sef bod modd ailgylchu 58% o’r gwastraff sy’n cael ei roi yn y bin du, yn annerbyniol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Bithell fod y penderfyniad hwn yn un anodd, ond rhoddodd amlinelliad o’r benbleth a wynebai’r Cyngor oherwydd y dirwyon posibl am dorri cyfraith a’r angen i ddangos i LlC fod y Cyngor yn gwneud ei orau i gyrraedd y targedau statudol uwch. Amlinellodd hefyd yr arbedion effeithlonrwydd a fyddai'n cael eu rhyddhau ac yn cynorthwyo gyda’r bwlch presennol yn y gyllideb.  

 

Siaradodd y Cynghorydd Bibby o blaid y newid gan yr Arweinydd a dywedodd ei fod yn gyfaddawd pragmataidd.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr mai bwriad cyffredinol y cynigion oedd lleihau nifer yr eitemau ailgylchadwy sy’n cael eu rhoi yn y bin du, a diolchodd i’r preswylwyr sy’n parhau i ailgylchu’r holl eitemau posibl. Roedd pawb yn ymwybodol iawn o effeithiau amgylcheddol peidio ag ailgylchu ac roedd yr effeithiau o ran newid hinsawdd yn sylweddol. Er mwyn gwneud cyfraniad cadarnhaol i genedlaethau’r dyfodol, roedd yn bwysig bod y Cyngor yn gwella cyfraddau ailgylchu. 

 

Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod adroddiad Monitro’r Gyllideb Refeniw yn cynnwys manylion am y risgiau ariannol sylweddol ac y byddai’r penderfyniad i newid i gasglu bob tair wythnos yn lleihau'r swm sydd ar gael i'w liniaru, gan olygu y byddai gostyngiad yn lefelau’r cronfeydd wrth gefn. Byddai hyn hefyd yn lleihau'r cyfraniad rhagamcanol i gwrdd â'r bwlch yn y gyllideb, y byddai'n rhaid ei ddiwallu drwy benderfyniadau eraill. Roedd risg uwch hefyd o ran y ddirwy am dorri cyfraith, ac nid oedd effaith ychwanegol yr £1.2 miliwn wedi’i gynnwys yn y gyllideb a byddai angen iddo gael ei dynnu o arian at raid lefel is y cronfeydd wrth gefn.  

 

Dywedodd y Prif Swyddog nad oedd unrhyw newidiadau arfaethedig i’r casgliadau bwyd ac ailgylchu. Roedd y Cyngor yn cynnig casgliadau ymyl palmant cynhwysfawr, a byddai’r gwasanaethau hynny’n parhau. Roedd llawer o waith wedi’i wneud o ran cyfathrebu â phreswylwyr, mynd i ddigwyddiadau a llunio prosiectau ar gyfer casglu gwastraff mewn fflatiau a thai amlfeddiannaeth, a fyddai’n sicrhau manteision sylweddol. Roedd y gwaith modelu yn dangos y byddai casgliadau bob tair wythnos yn casglu 66% o ddeunyddiau ailgylchu, nad oedd yn cyrraedd y targed statudol diwygiedig o 70% a osodwyd gan LlC.

 

Eglurodd y Prif Swyddog hefyd y byddai'r cynigion i newid i wythnos waith 5 diwrnod yn cael eu cadw fel rhan o'r cynnig diwygiedig ac y byddai adroddiad yn amlinellu'r cynllun cyfathrebu a gweithredu yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet yn yr hydref.  

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Cabinet yn cydnabod ac yn nodi canlyniadau'r gwaith modelu a wnaed o ran cyfyngu ar gapasiti casgliadau gwastraff gweddilliol; a

 

(b)       Bod y Cabinet yn cefnogi newid i’r model darparu gwasanaeth mwyaf effeithiol o gynnal gwasanaeth casglu deunyddiau ailgylchu wythnosol cynhwysfawr a chasglu gwastraff gweddilliol yn llai aml, unwaith bob tair wythnos, gan gadw’r bin du 180 litr ar olwynion er mwyn cyflawni’r cynnydd mwyaf o ran perfformiad ailgylchu, lleihau allyriadau nwyon t? gwydr a lleihau costau.

Awdur yr adroddiad: Katie Wilby

Dyddiad cyhoeddi: 22/10/2024

Dyddiad y penderfyniad: 23/07/2024

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 23/07/2024 - Cabinet

Yn effeithiol o: 01/08/2024

Dogfennau Atodol: